Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a Darparu Cymorth Ariannol
- Diogelwch ar y Campws
- Arweinyddiaeth y Brifysgol
- Llywodraethu'r Brifysgol
- Cyllid
- Caffael
- Gwerthoedd
- Ein Cyfeiriad Strategol
- Gweledigaeth ac uchelgais
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Cydymffurfiaeth
- Diogelu Data
- Cydymffurfiaeth Y Gymraeg
- Beth yw Safonau'r Gymraeg?
- Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg
- Arfer gorau: cydymffurfiaeth
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 1 Awst 2019 - 31 Gorffennaf 2020
- Asesu sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi
- Adroddiad Cydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg 2020-21
- Cynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg ar gyfer 1 Awst 2021 - 31 Gorffennaf 2022
- Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg o 1 Awst 2022 i 31 Gorffennaf 2023
- Hawl i ddefnyddio'r Gymraeg
- Adborth ynglŷn â'r Gymraeg yn y Brifysgol
- Rhyddid Gwybodaeth
- Rheoli Cofnodion
- Rheoliadau Mewnfudo
- Gwasanaethau Arlwyo
- Cysylltu â ni
Cyhoeddwyd yn unol â gofynion Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017
Cyflwyniad
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sicrhau bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru. Cafodd Safonau Iaith eu gosod gan y Mesur ar sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mae pum categori o Safonau:
o Safonau Cyflenwi Gwasanaethau
o Safonau Llunio Polisi
o Safonau Gweithredu
o Safonau Hybu a
o Safonau Cadw Cofnodion
Mae’r Safonau'n amlinellu sut y dylai cyrff drin a defnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd, er enghraifft, wrth anfon gohebiaeth, ymdrin â galwadau ffôn, darparu gwasanaethau ar-lein neu wyneb yn wyneb, llunio polisïau neu wrth ddarparu gwasanaethau'n fewnol i staff. Mae'r gofynion hefyd yn ymdrin â dyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol gan y Brifysgol.
Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg ddyletswydd statudol i fonitro cydymffurfiaeth sefydliadau â Safonau'r Gymraeg ac ymchwilio i gwynion ac achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth. Mae’r Comisiynydd yn gallu gosod camau gorfodi, dyfarniadau llys sirol a dirwyon.
Dyfarnu Grantiau a Darparu Cymorth Ariannol
Dyma’r Safonau perthnasol o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017:
- Rhaid i unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyhoeddi sy’n ymwneud â cheisiadau am grant neu gymorth ariannol gael eu cyhoeddi yn Gymraeg, a rhaid ichi beidio â thrin fersiwn Gymraeg o’r dogfennau hynny yn llai ffafriol na fersiwn Saesneg ohonynt. (Safon 75)
- Pan fyddwch yn gwahodd ceisiadau am grant neu gymorth ariannol, rhaid ichi ddatgan yn y gwahoddiad y caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg ac na fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn
(Safon 76) - Rhaid ichi beidio â thrin ceisiadau am grant neu gymorth ariannol a gyflwynir yn Gymraeg yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymysg pethau eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cael ceisiadau, ac mewn perthynas ag amseriad
rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau). (Safon 76A) - Os byddwch yn cael cais am grant neu gymorth ariannol yn Gymraeg, a bod angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o’ch asesiad o’r cais rhaid ichi-
(a) cynnig darparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i’r ymgeisydd allu defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, a
(b) os yw’r ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn y cyfweliad, darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd at y diben hwnnw (oni bai eich bod yn cynnal y cyfweliad yn Gymraeg heb wasanaeth cyfieithu). (Safon 78) - Pan fyddwch yn rhoi gwybod i ymgeisydd beth yw’ch penderfyniad mewn perthynas â chais am grant neu gymorth ariannol, rhaid ichi wneud hynny yn Gymraeg os cyflwynwyd y cais yn Gymraeg. (Safon 79)
- Rhaid ichi lunio a chyhoeddi polisi ar ddyfarnu grantiau neu ddarparu cymorth ariannol (neu, pan fo’n briodol, ddiwygio polisi sydd eisoes yn bodoli) sy’n ei gwneud yn ofynnol ichi ystyried y materion a ganlyn pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ynghylch dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol-
- (a) pa effeithiau, os o gwbl (a pha un a yw’r rheini’n bositif neu’n andwyol), y byddai dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol yn eu cael ar—
(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a
(ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; - (b) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel y byddai’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif, ar—(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
- (c) sut y gellid gwneud neu weithredu penderfyniad (er enghraifft, drwy osod amodau) fel na fyddai’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar—(i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg;
- (ch) a oes angen ichi ofyn i’r ymgeisydd am grant am unrhyw wybodaeth ychwanegol er mwyn eich cynorthwyo i asesu effaith dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol ar— (i) cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a (ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.(Safon 100)
Sut mae'r gofynion yn berthnasol i Brifysgol Abertawe?
Rhaid ystyried y gofynion uchod mewn unrhyw agwedd ar brosesau Prifysgol Abertawe o ddyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol, boed hynny yn ystod y camau hyrwyddo, ymgeisio, cyfweld (lle bo hynny'n berthnasol), gwneud penderfyniadau, neu ddyfarnu'r grant neu gymorth ariannol ac unrhyw gamau dilynol gyda'r ymgeisydd.
Bydd glynu wrth y rhestr wirio a ddarperir (yn Atodiad 2) yn dangos eich bod wedi cydnabod ac wedi ymateb i'r angen i ystyried y Gymraeg. Felly, mae'n rhaid i broses llwyddiannus o ddyfarnu grantiau neu gymorth ariannol ym Mhrifysgol Abertawe:
- gyhoeddi'r holl ddeunydd yn Gymraeg
- parchu dewis iaith unigolion drwy gydol y broses ymgeisio
- nodi unrhyw effeithiau ar y Gymraeg (cadarnhaol, negyddol neu'r ddau)
- nodi ffyrdd o hyrwyddo'r Gymraeg, gan gynnwys defnyddio'r Gymraeg
- lleihau unrhyw effeithiau andwyol ar y Gymraeg
- gosod amodau ar unrhyw grant neu gymorth ariannol mewn perthynas â'r Gymraeg lle ystyrir bod angen gwneud hynny
Cwmpas y Gofynion
• Os yw'r Brifysgol yn dyfarnu grantiau neu gymorth ariannol ar ran corff arall (Llywodraeth Cymru neu unrhyw gorff arall sy'n dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) ac mae amodau a thelerau penodol y grant/cymorth ariannol yn cynnwys gofynion ynghylch y Gymraeg, yna bydd y polisi hwn yn berthnasol.
• Os yw'r Brifysgol yn dyfarnu grantiau/cymorth ariannol y mae’n eu hariannu yn uniongyrchol, yna bydd y polisi hwn yn berthnasol.
• Os yw'r Brifysgol yn dyfarnu grantiau/cymorth ariannol ar ran sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys yng nghwmpas Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac nid oes amodau a thelerau penodol mewn perthynas â'r Gymraeg wedi’u nodi yn y grant/cymorth ariannol, yna bydd y gofynion yn berthnasol os yw Prifysgol Abertawe yn rhan o'r broses benderfynu mewn unrhyw ffordd.
Os nad ydych yn siŵr a yw'r polisi hwn yn berthnasol i broses dyfarnu grantiau rydych yn ei rheoli - cysylltwch â swyddfaiaithgymraeg@abertawe.ac.uk am gyngor pellach.
Beth yw Grant neu Gymorth Ariannol?
Mae Côd Ymarfer (drafft) Safonau’r Gymraeg (Rheoliadau Rhif 6) a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn diffinio ' grant' fel a ganlyn:
"... Fel arfer, mae ‘grant’ yn drosglwyddiad parhaol o arian i berson nad oes rhaid ei dalu’n ôl neu ei ddychwelyd. 4.18.16 Mae’r term ‘grant’ yn cynnwys unrhyw gymorth y mae corff yn ei roi i berson at brosiect neu ddiben penodol. Gan amlaf, dim ond rhan o gyfanswm costau y mae grant yn talu amdano. Maent fel arfer yn cael eu defnyddio yn unol â thelerau ac amodau penodol.”
“Gall y term ‘cymorth ariannol’ gynnwys budd-dal, arian ysgoloriaeth, benthyciad, neu fwrsari fel rhai esiamplau ond nid yw’n cynnwys swm o arian sy’n cael ei roi i berson drwy broses gaffael.”
Beth dylid ei gynnwys yn y canllawiau ar gyfer ymgeiswyr?
Rydym yn awgrymu bod y canlynol yn cael ei gynnwys mewn canllawiau i ymgeiswyr:
Mae Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 yn gosod gofyniad statudol ar y Brifysgol i sicrhau bod yr holl grantiau a chymorth ariannol a ddyrannir ganddi yn ystyried a oes ffyrdd y gellid diwygio'r fenter i gynnwys effeithiau mwy cadarnhaol ar yr iaith Gymraeg, neu os gellid cynnwys camau i leihau effeithiau negyddol, neu eu hosgoi yn gyfan gwbl.
Wrth gydymffurfio â'r gofyniad statudol hwn gofynnwn i chi, fel yr ymgeisydd, roi gwybod i ni drwy'r ffurflen gais sut y gallai eich menter effeithio ar y meysydd canlynol –
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg e.e. myfyrwyr, staff, preswylwyr ac ymwelwyr
- nifer y siaradwyr Cymraeg e.e. addysg cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd astudio, cysylltiadau â Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru / Strategaeth Iaith Gymraeg Prifysgol Abertawe
- cyfleoedd i hyrwyddo'r Gymraeg e.e. statws yr iaith, y defnydd o wasanaethau Cymraeg, defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, ar y campws, ac yn y gymuned. Anogwch a hyrwyddwch y defnydd o'n gwasanaethau Cymraeg i weld cynnydd yn y galw dros amser.
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
Bydd y tîm yn asesu eich atebion, yn gofyn cwestiynau pellach lle bo angen, neu byddant yn gosod amodau grant a fydd yn gofyn i chi gwblhau camau penodol i sicrhau effeithiau mwy cadarnhaol ar y Gymraeg.
Beth dylid ei gynnwys yn yr amodau a thelerau?
Argymhellwn y dylid cynnwys y cymal canlynol ym mhob dogfen amodau a thelerau y mae Prifysgol Abertawe yn ei darparu ar gyfer grantiau a chymorth ariannol.
Dyfernir y grant/cymorth ariannol hwn yn unol â gofynion ein Polisi ar Ddyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol, a gyhoeddwyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017, o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
A phan fo hynny'n berthnasol:
*Er mwyn bodloni gofynion yr amodau a thelerau hyn rhaid i chi gydymffurfio â'r isod -
<<mewnosodwch amodau grant penodol mewn perthynas â'r Gymraeg>>neu
- <<rhestr o gamau y mae'r ymgeisydd wedi'u nodi i sicrhau effeithiau cadarnhaol, neu i leihau effeithiau negyddol (bydd y rhain wedi cael eu trafod yn ystod y cyfnod penderfynu). >>
*Efallai y bydd hi'n briodol mewn rhai achosion gosod amod ar grant neu fathau o gymorth ariannol er mwyn sicrhau effaith fwy cadarnhaol ar y Gymraeg. Gallai hyn fod mor syml â'i gwneud hi’n ofynnol i ymgeiswyr arddangos arwyddion dwyieithog, cyhoeddi adroddiadau blynyddol yn Gymraeg, neu fod gweithgareddau yn cael eu darparu yn Gymraeg.
Dylai unrhyw ofynion adrodd ynghylch y defnydd o’r grant neu gymorth ariannol hefyd gynnwys gofyniad i adrodd ar yr effaith ar y Gymraeg.
Os oes angen cyngor pellach, mae croeso i chi gysylltu â swyddfaiaithgymraeg@abertawe.ac.uk .
Beth yw ystyr effaith?
Effaith negyddol neu andwyol
Mae effaith negyddol neu andwyol yn golygu y byddai’r fenter (neu ryw agwedd arni) yn cael effaith negyddol drwy leihau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith, lleihau nifer neu ganran y siaradwyr Cymraeg, trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg neu beidio â hyrwyddo’r Gymraeg. Gall effaith negyddol fod yn gwbl anfwriadol ac efallai y daw i’r amlwg dim ond pan gynhelir ymchwil neu ymgynghoriad neu drwy ofyn am gyngor gan Swyddogion Polisi perthnasol.
Ceir effaith negyddol hefyd pan fydd menter yn cael ei thynnu neu ni fydd yn parhau mwyach. Felly, dylid ystyried y materion hyn yn ystod y broses o wneud penderfyniad ynghylch cais.
Effaith bositif
Gall menter (neu ryw agwedd arni) gael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg os yw, er enghraifft, yn cynyddu cyfleoedd i bersonau ddefnyddio'r iaith, os yw’n hyrwyddo'r Gymraeg, yn cynyddu niferoedd neu ganran siaradwyr Cymraeg neu’n trin y Gymraeg yn fwy ffafriol na'r Saesneg.
Dim effaith/Dibwys
Ni rhagwelir y bydd y fenter (neu ryw agwedd arni) yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg.
Manylion Cyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
Fframwaith Asesu Enghreifftiol
Cynghorir bod fframweithiau asesu yn cael eu diweddaru i gynnwys adran sy'n ystyried yr effeithiau ar y Gymraeg. Ceir templed posibl yma ATODIAD 1 Polisi Dyfarnu Grantiau.
Rhestr Wirio
Gofynnir i chi lenwi’r rhestr wirio sydd yn yr atodiad wrth reoli proses dyfarnu grant neu ddarparu cymorth ariannol ar ran Prifysgol Abertawe, er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 6) 2017 ATODIAD 2 Polisi Dyfarnu Grantiau