Mae Seicoleg Glinigol yn faes seicoleg sy'n ymrwymedig i ddeall ac atal trafferthion yn seiliedig ar seicoleg a hyrwyddo llesiant goddrychol. Mae Seicoleg Iechyd yn faes seicoleg sy'n ymrwymedig i ddeall ffactorau biolegol, seicolegol a chymdeithasol sy'n rhan o iechyd, salwch a gofal iechyd. Mae'r grŵp ymchwil Seicoleg Glinigol ac Iechyd yn profi ac yn datblygu theori seicolegol, yn ogystal â hysbysu polisi ac arfer. Rydym yn ymchwilio ystod o gwestiynau ymchwil, gan gynnwys etioleg a thrin hunllefau, nam gwybyddol ysgafn ac anaf i'r ymennydd, problemau'n ymwneud â diet a bwyta, defnyddio cyffuriau ac alcohol, gamblo, anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, a ffactorau'r gweithle, megis effeithiau hirdymor gwaith sifft.