bay campus location

Mrs Ellen Spender

Athro Cyswllt
Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
231
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Ellen yn Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe mewn cyfrifeg ac yn gydlynydd modiwl ar gyfer sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig ac Ellen hefyd yw Arweinydd Ymgysylltu â Myfyrwyr yr Ysgol Reolaeth. Mae Ellen yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Yn ystod ei hamser yn Abertawe, mae Ellen wedi cael ei hanrhydeddu i dderbyn sawl cymeradwyaeth gan fyfyrwyr am ansawdd ei haddysgu. Yn wir, mae ei gyrfa fel darlithydd proffesiynol wedi canolbwyntio'n helaeth ar y dysgwr, ac mae ei hymagwedd adeileddol at addysgu yn estyniad o'i diddordeb personol-broffesiynol mewn ymgysylltu â myfyrwyr a'i hangerdd drosto. Mae adborth gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn galonogol ac yn gadarnhaol, gan atgyfnerthu ei methodolegau addysgu.

Ymgysylltu â myfyrwyr yw prif waith ymchwil Ellen gan ganolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr drwy gyflwyno addysgu o safon ac ymgysylltu'n llwyddiannus â myfyrwyr i'w hysgogi i gyflawni eu potensial addysgol unigol. Yn 2021, cafod Ellen ei hanrhydeddu gyda Gwobr Athrawes y Flwyddyn gan yr Ysgol Reolaeth. 

Cwblhaodd Ellen ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ym 1997 ac yn ystod gyrfa Ellen fel darlithydd cymwys mae wedi cyflwyno amrywiaeth o bynciau mewn sawl sefydliad addysgol.

 

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifyddu Ariannol
  • Dadansoddi Datganiadau Ariannol
  • Cyfrifyddu Fforensig
  • Cyllid Corfforaethol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Ellen yn addysgu cyfrifeg fforensig, gan ddarparu trosolwg o rôl y cyfrifydd fforensig i israddedigion yn eu blwyddyn olaf.

Mae hi'n addysgu cyfrifeg ariannol a chyllid corfforaethol ar gyfer y rhaglenni MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid, MSc mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Peirianneg a Meistr mewn Gweinyddu Busnes.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau