Swansea Bay Campus
Dr Vineet Upreti

Dr Vineet Upreti

Darlithydd mewn Cyllid, Accounting and Finance

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606296

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
221
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Vineet Upreti yn Ddarlithydd yn Adran Cyfrifeg a Chyllid Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Cyn ymuno â'r gyfadran ym Mhrifysgol Abertawe, bu Vineet yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth fel Cymrawd Ymchwil Doethurol Willis ym Mhrifysgol Caerfaddon. Derbyniodd gefnogaeth ariannol gan Rwydwaith Ymchwil Willis ar gyfer ei ymchwil ddoethurol.

Mae ei ddiddordebau ymchwil ym meysydd economeg ariannol a chyllid empirig. Ymhlith y pynciau sydd o ddiddordeb ar hyn o bryd mae’r rhyngwyneb rhwng rheoli risg ariannol a chyllid strategol; prisio asedau ariannol; effeithiau newidiadau rheoliadol ar farchnadoedd ariannol; a rhagfynegi anwadalrwydd mewn prisiau/enillion asedau gan ddefnyddio technegau ystadegol uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli risg ariannol
  • Prisio asedau ariannol
  • Rhagfynegi anwadalrwydd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rheolaeth Ariannol Ryngwladol

Mae'r uned hon yn trafod y risgiau ychwanegol y mae cwmni'n eu hwynebu pan fydd yn dechrau gwneud busnes mewn mwy nag un wlad. Mae'r maes llafur yn cynnwys damcaniaethau amrywiol am bennu cyfraddau cyfnewid; rheoli risgiau ariannol sy'n deillio o symudiadau yn y gyfnewidfa dramor; a strategaethau a ddefnyddir gan gwmnïau rhyngwladol i reoli eu hatebolrwydd treth.

Cyllid Corfforaethol

Mae'r uned hon yn ymdrin ag agweddau cysyniadol, technegol a chyfrifiadurol cyllid corfforaethol. Mae'r cwrs yn cyflwyno meysydd pwnc allweddol cyllid corfforaethol gan gynnwys dadansoddi portffolio; y Model Prisio Asedau Cyfalaf; technegau a ddefnyddir i arfarnu buddsoddiadau; a'r cysyniad o strwythur cyfalaf optimaidd.

Ymchwil Cydweithrediadau