Trosolwg
Mae Dr Jafar Ojra yn Uwch Ddarlithydd Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae gan Dr Ojra dros wyth mlynedd o brofiad darlithio ac ar hyn o bryd mae'n darlithio modiwlau Israddedig ac Ôl-raddedig. Yn ogystal, mae'n goruchwylio myfyrwyr MSc a PhD.
Mae Dr Ojra yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA). Yn 2018, dyfarnwyd y wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu iddo gan Brifysgol Abertawe. Cafodd Jafar ei PhD yn 2014 gan Ysgol Fusnes Norwich, Prifysgol East Anglia, drwy arbenigo mewn Cyfrifeg Rheoli Strategol.
Mae Jafar wedi cyflwyno ei ymchwil mewn gwahanol gynadleddau, ac mae ei weithgarwch ymchwil cyfredol yn rhychwantu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Cyfrifeg Rheoli Strategol (SMA), Mesur Perfformiad, Llywodraethu Corfforaethol, ac Entrepreneuriaeth a BBaChau.
Mae Dr Ojra wedi cymhwyso fel Cyfrifydd Rheoli Byd-eang Siartredig (CGMA). Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2014, bu'n gweithio'n helaeth ar draws gwahanol sectorau diwydiannol yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Daw Jafar o Fethlehem, Palesteina yn wreiddiol, ac mae wedi ymgartrefu yn Abertawe ers 2014. Mae'n redwr marathon sy'n mwynhau'r gwmnïaeth, y rhyngweithio a'r gystadleuaeth gyda rhedwyr eraill, ac mae wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer gwahanol achosion.