Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Professor Tunyi Abongeh

Yr Athro Tunyi Tunyi Abongeh

Professor in Accounting and Finance, Accounting and Finance
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Tunyi yn Athro Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth. Mae ganddo BSc mewn Cyfrifeg, Gradd Meistr mewn Cyllid (MFin) gyda rhagoriaeth (Prifysgol Glasgow) a PhD mewn Cyllid a Chyfrifeg (Prifysgol Glasgow). Mae'n Uwch-gymrawd o'r Academi Addysg Uwch (SFHEA). Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd gan Tunyi amryw o rolau ymchwil, addysgu ac arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Glasgow, Prifysgol Hope Lerpwl a Phrifysgol Sheffield.

Mae gwaith ymchwil Tunyi yn archwilio materion cyfoes y croestoriad rhwng cyfrifeg, cyllid a rheolaeth. Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd sy'n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r rhain yn cynnwys: the Journal of Corporate Finance; European Accounting Review; Accounting, Auditing and Accountability Journal; Journal of Business Finance and Accounting; International Business Review and Journal of Business Research, ymysg sawl un arall. Mae'n adolygydd achlysurol ac yn aelod o fwrdd golygyddol cyfnodolion blaenllaw, yn ogystal ag yn arholwr allanol mewn sefydliadau gwahanol.

Mae ef wedi goruchwylio sawl PhD tan iddynt gael eu cwblhau ac mae wedi arholi sawl PhD yn allanol mewn sefydliadau gwahanol yn y DU. Mae'n croesawu cynigion gan ddarpar-fyfyrwyr PhD gyda phrosiectau arloesol ac uchelgeisiol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfuno a phrynu cwmnïau
  • Cyfrifeg ar sail y farchnad
  • Cyllid corfforaethol
  • Rheoli enillion
  • Llywodraethu corfforaethol a byrddau
  • Adrodd ariannol
  • Cynaliadwyedd, ESG, newid yn yr hinsawdd
  • Cyllid a chyfrifeg mewn economïau datblygol