bay campus location
female smiling

Yr Athro Sarah Jones

Athro, Accounting and Finance

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604711

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
235
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Sarah yw Arweinydd Addysg yr Ysgol ar gyfer yr Ysgol Reolaeth. Mae'n addysgwraig brofiadol sydd wedi dysgu mewn Addysg Uwch am 20+ mlynedd.  Mae ei chymwysterau lawn cystal, â hithau'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA), TAR(AU/AB) ac yn Gyfrifydd Rheoli Siartredig.

Mae wedi ymrwymo i helpu myfyrwyr i gyflawni deilliannau dysgu uwch, gwell sgiliau trosglwyddo a dysgu gydol oes, a gwell cyflogadwyedd, ac mae'n ymdrechu i greu'r gymuned academaidd orau bosibl rhwng staff a myfyrwyr yn yr adran.

Mae hi'n angerddol am ddatblygiadau Dysgu ac Addysgu, yn enwedig ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm ac mewn asesiadau.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg Rheoli
  • Gwneud Penderfyniadau Busnes

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ei phrif faes addysgu yw Cyfrifeg Rheoli (ar lefel Israddedig ac Ôl-raddedig) ond mae hi hefyd wedi dysgu Cyfrifeg Ragarweiniol, Archwilio a Chyllid Corfforaethol Rhagarweiniol.

Mae gan Sarah brofiad helaeth o ddatblygu rhaglenni, ar ôl cyd-awduro'r cyrsiau gradd BSc ac MSc Cyfrifeg a Chyllid, ac yn fwy diweddar mae wedi cynnal nifer o ymarferion adolygu'r cwricwlwm. Datblygwyd ei harbenigedd rheoli rhaglenni ar draws amrywiaeth o raglenni, gan gynnwys cyfnod fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y rhaglen BSc Cyfrifeg a Chyllid ac fel Cyfarwyddwr Astudiaethau ar gyfer gradd Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Caerfaddon, lle bu'n gweithio am 3 blynedd. Gynt bu'n Ddirprwy Bennaeth yr Adran gyda chyfrifoldeb am Ddysgu ac Addysgu, yn Bennaeth yr Adran Cyfrifeg a Chyllid ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu cyn ymgymryd â'r rôl bresennol.