Trosolwg
Ar hyn o bryd, mae Syed yn gweithio fel Uwch Ddarlithydd Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae hefyd yn Ddirprwy Bennaeth Canolfan Cyllid Empiraidd Hawkes. Derbyniodd ei PhD ar Anghymesuredd yn y Gyfres Amser Macro/Ariannol o Brifysgol Southampton. Mae'n ddeiliad cymrodoriaeth addysgu gan Awdurdod Addysg Uwch y DU.
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys anghymesuredd ac aflinoledd, marchnadoedd ariannol rhyngwladol, prisio asedau a modelu anwadalrwydd ac ansicrwydd economaidd.
Mae ei gyfrifoldebau addysgu presennol yn cynnwys cyllid corfforaethol rhyngwladol a chyllid empiraidd ar lefel ôl-raddedig.
Mae ei waith ymchwil wedi'i gyhoeddi mewn amryw o gylchgronau rhyngwladol uchel eu parch, gan gynnwys International Review of Financial Analysis, Journal of International Financial Markets and Institutions ac International Journal of Finance and Economics.