Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00430
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
18 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
13 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dr Phatsimo Mabophiwa p.g.mabophiwa@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Phrifysgol Abertawe ar gyfer prosiect sy'n ceisio gwella darpariaethau Cymraeg ar gyfer ymarferwyr a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid i weithio'n agos gyda Dr Gemma Morgan, Dr Joe Janes and Dr Mabophiwa i goladu adnoddau Cymraeg presennol a datblygu llyfrgell o adnoddau ar gyfer yr holl ymarferwyr ar draws Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyfnerthu ac yn cynorthwyo wrth gwblhau adroddiad a chynorthwyo wrth greu 'mapiau gwres' sy'n seiliedig ar gymhareb nifer y plant sy'n siarad Cymraeg â nifer y staff sy'n siarad Cymraeg i gefnogi awdurdodau lleol a dyraniadau adnoddau strategol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i wella adnoddau Cymraeg.   Bydd y rôl yn cynnwys cyfuniad o waith desg o bell ac ymweliadau achlysurol â chyfleusterau Cyfiawnder Ieuenctid ar draws Cymru i gasglu data.Hefyd bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle i gyfrannu at allbynnau ymchwil.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.  Yn greiddiol i'r prosiect yw gwella darpariaethau Cymraeg yn y system cyfiawnder ieuenctid. Agwedd allweddol o'r prosiect yw archwilio'r ffordd y gellir cefnogi staff i ddod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn ogystal â gwella gwelededd y Gymraeg yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  Cynhelir yr holl waith ymchwil yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Bydd y rôl yn cynnwys y canlynol:

Nodi a choladu darpariaethau/adnoddau Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd i'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid i ddatblygu llyfrgell o adnoddau Cymraeg i ymarferwyr.

Ymgynghori ag ymarferwyr a phobl ifanc i gael gwell dealltwriaeth o'r bylchau mewn darpariaethau/adnoddau Cymraeg ar draws Cymru.

Ymgynghori ag ymarferwyr a phobl ifanc i ddeall yn well yr heriau o ddarparu/gyrchu ymyriadau/cymorth yn Gymraeg.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau 

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr