Wrth bennu strategaeth fuddsoddi'r Cynllun, blaenoriaeth bennaf yr Ymddiriedolwyr yw gweithredu er buddiannau gorau'r Cynllun a'i fuddiolwyr, gan geisio'r adenillion gorau sy'n gyson â lefel ddarbodus a phriodol o risg. Mae'r rhain yn cynnwys y risg y gallai ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, effeithio'n negyddol ar werth y buddsoddiadau os nad ydynt yn cael eu deall a’u gwerthuso'n briodol. Mae'r Ymddiriedolwyr yn ystyried y risg hon drwy gymryd cyngor gan eu cynghorydd buddsoddi wrth bennu dyraniad asedau'r Cynllun, wrth ddewis rheolwyr ac wrth fonitro eu perfformiad.
Bydd yr Ymddiriedolwyr yn cynnal adolygiad ffurfiol o strategaeth fuddsoddi'r Cynllun yn 2023, a rhagwelir y bydd y ddogfen hon, ac ymagwedd yr Ymddiriedolwyr at fuddsoddi cyfrifol, i'r graddau y mae'n berthnasol i benderfyniadau a wneir mewn cysylltiad â'r Cynllun, yn cael eu hadolygu yn sgîl y casgliadau ac unrhyw newidiadau perthnasol a roddir ar waith yn strategaeth y Cynllun.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn cydnabod bod y cyflogwr noddi wedi gwneud nifer o ymrwymiadau ynghylch cynaliadwyedd, lleihau carbon ac effaith amgylcheddol, a bod hwn yn faes pwysig i'r cyflogwr noddi ac i'r Ymddiriedolwyr.
Trefniadau gyda rheolwyr asedau
Mae'r Ymddiriedolwyr yn monitro buddsoddiadau'r Cynllun yn rheolaidd er mwyn ystyried i ba raddau mae'r strategaeth fuddsoddi a phenderfyniadau'r rheolwyr asedau yn gyson â pholisïau'r Ymddiriedolwyr. Mae hyn yn cynnwys monitro i ba raddau mae rheolwyr asedau yn:
• gwneud penderfyniadau ar sail asesiadau am berfformiad ariannol tymor canolig i dymor hir dyroddwr dyled neu ecwiti; ac
• yn ymgysylltu â dyroddwyr dyled neu ecwiti er mwyn gwella eu perfformiad yn y tymor canolig i'r tymor hir.
Cefnogir yr Ymddiriedolwyr yn y gweithgarwch monitro hwn gan eu cynghorydd buddsoddi.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn derbyn adroddiadau o leiaf bob chwarter, ynghyd â diweddariadau ar lafar am eitemau amrywiol gan y cynghorydd buddsoddi, gan gynnwys y strategaeth fuddsoddi, perfformiad a sefyllfa portffolio yn y tymor hwy. Mae'r Ymddiriedolwyr yn canolbwyntio ar berfformiad tymor hwy wrth ystyried addasrwydd parhaus y strategaeth fuddsoddi mewn perthynas ag amcanion y Cynllun, ac maent yn asesu'r rheolwyr asedau dros gyfnodau o 3 blynedd.
Mae'r Ymddiriedolwyr hefyd yn derbyn adroddiadau stiwardiaeth am y gweithgareddau monitro ac ymgysylltu a wneir gan eu rheolwyr asedau. Mae hyn yn cynorthwyo'r Ymddiriedolwyr wrth bennu i ba raddau y glynwyd wrth bolisi ymgysylltu'r Cynllun drwy gydol y flwyddyn.
Cyn penodi rheolwr ased newydd, mae'r Ymddiriedolwyr yn adolygu'r ddogfennaeth lywodraethu sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad a byddant yn ystyried i ba raddau y mae'n gyson â pholisïau'r Ymddiriedolwyr.
Mae'r Ymddiriedolwyr o'r farn bod meddu ar ddogfennaeth lywodraethu briodol, pennu disgwyliadau clir i'r rheolwr asedau drwy ffyrdd eraill (lle bo'n angenrheidiol), a monitro perfformiad a strategaeth fuddsoddi rheolwyr asedau yn ddigonol, yn y rhan fwyaf o achosion, i gymell y rheolwyr asedau i wneud penderfyniadau sy'n gyson â pholisïau'r Ymddiriedolwyr ac sy'n seiliedig ar asesiadau o berfformiad ariannol ac anariannol tymor canolig a thymor hir.
Lle tybir bod rheolwyr asedau wedi gwneud penderfyniadau nad ydynt yn gyson â pholisïau a disgwyliadau'r Ymddiriedolwyr na'r ystyriaethau eraill a nodir uchod, fel arfer, bydd yr Ymddiriedolwyr yn trafod â'r rheolwr i ddechrau ond, yn y pen draw, gallent ddisodli’r rheolwr asedau lle tybir bod hyn yn angenrheidiol.
Nid oes cyfnod penodol ar gyfer hyd trefniadau gyda'r rheolwyr asedau, er y caiff penodiad parhaus yr holl reolwyr asedau ei adolygu'n gyfnodol, ac o leiaf bob tair blynedd pan adolygir y strategaeth. Ar gyfer cyfryngau pengaead penodol, gall natur y buddsoddiadau isorweddol ddiffinio'r hyd.
Nid yw'r Ymddiriedolwyr yn monitro rheolwyr ased yn rheolaidd yn erbyn meini prawf anariannol y buddsoddiadau a wneir ar eu rhan.
Stiwardiaeth - Pleidleisio ac Ymgysylltu
Mae'r Ymddiriedolwyr yn cydnabod pwysigrwydd eu rôl fel stiward
iaid cyfalaf a'r angen i sicrhau'r safonau uchaf o ran llywodraethu a hybu cyfrifoldeb corfforaethol yn y cwmnïau a'r asedau y mae'r Cynllun yn buddsoddi ynddynt, gan fod hyn, yn y pen draw, yn creu gwerth ariannol tymor hir i'r cynllun a'i fuddiolwyr.
Fel rhan o'u cyfrifoldebau dirprwyedig, mae'r Ymddiriedolwyr yn disgwyl i reolwyr buddsoddi'r Cynllun:
• Lle y bo'n briodol, ymgysylltu â'r cwmnïau y buddsoddir ynddynt â'r nod o amddiffyn a gwella gwerth asedau; ac
• Arfer yr hawliau pleidleisio mewn perthynas ag asedau'r Cynllun.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn adolygu addasrwydd parhaus y rheolwyr buddsoddi a benodwyd yn rheolaidd ac yn derbyn cyngor gan y cynghorydd buddsoddi ynghylch unrhyw newidiadau. Mae'r cyngor hwn yn cynnwys ystyried materion stiwardiaeth ehangach a sut mae'r rheolwyr a benodwyd yn arfer hawliau pleidleisio. Os canfyddir bod rheolwr yn methu cyflawni'r safonau mae'r Ymddiriedolwyr wedi'u nodi yn eu polisi, bydd yr Ymddiriedolwyr yn trafod â'r rheolwr a cheisio cyrraedd sefyllfa fwy cynaliadwy, ond gallant ystyried penodi rheolwr newydd.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn adolygu gweithgareddau stiwardiaeth eu rheolwyr cronfa’n flynyddol, gan roi sylw i weithredoedd ymgysylltu a phleidleisio. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn adolygu i ba raddau mae polisïau rheolwyr cronfa'r Cynllun yn gyson â'u polisïau hwy ac yn sicrhau bod eu rheolwyr, neu drydydd partïon eraill, yn defnyddio eu dylanwad fel buddsoddwyr sefydliadol mawr i gyflawni hawliau a dyletswyddau'r Ymddiriedolwyr fel cyfranddaliwr a pherchennog asedau cyfrifol. Bydd hyn yn cynnwys pleidleisio a - lle y bo'n berthnasol ac yn briodol - ymgysylltu â chwmnïau ac asedau y buddsoddir ynddynt er mwyn hyrwyddo llywodraethu corfforaethol da, atebolrwydd a newid cadarnhaol.
Bydd yr Ymddiriedolwyr yn ymgysylltu â'u rheolwyr buddsoddi i gael rhagor o wybodaeth, yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod ymddygiadau perchnogaeth gadarn a gweithredol, sy'n adlewyrchu eu polisïau perchnogaeth weithredol, ar waith.
O bryd i'w gilydd, bydd yr Ymddiriedolwyr yn ystyried o dan ba amgylchiadau byddent yn monitro ac ymgysylltu â dyroddwr dyled neu ecwiti, a rheolwr ased neu ddeiliad dyled neu ecwiti arall, a rhanddeiliaid eraill, a pha ddulliau byddent yn eu defnyddio. Gall yr Ymddiriedolwyr ymgysylltu ynghylch materion sy'n ymwneud â dyroddwr dyled neu ecwiti, gan gynnwys ei berfformiad, strategaeth, risgiau effaith amgylcheddol a chymdeithasol a llywodraethu corfforaethol, y strwythur o ran cyfalaf a sut mae'n rheoli gwrthdaro gwirioneddol neu bosib rhwng buddiannau.
Barn Aelodau a Ffactorau Anariannol
Wrth bennu strategaeth fuddsoddi'r Cynllun a'i rhoi ar waith, nid yw'r Ymddiriedolwyr yn rhoi sylw penodol i farn aelodau a buddiolwyr y Cynllun mewn perthynas ag ystyriaethau moesegol, effaith gymdeithasol ac amgylcheddol, na materion sy'n ymwneud ag ansawdd bywyd nawr neu yn y dyfodol (diffinnir y rhain fel "ffactorau anariannol").
Monitro Costau
Mae'r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd monitro cyfanswm costau eu rheolwyr cronfa a'r effaith y gall y costau hyn ei chael ar werth cyffredinol asedau'r Cynllun. Mae'r Ymddiriedolwyr yn cydnabod bod eu rheolwyr cronfa yn mynd i nifer o gostau eraill yn ogystal â’r taliadau rheoli blynyddol, a gall y rhain gynyddu'r gost gyffredinol sy'n gysylltiedig â'u buddsoddiadau.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn derbyn adroddiad blynyddol am dryloywder costau sy'n cynnwys eu holl fuddsoddiadau. Caiff yr wybodaeth hon ei choladu a'i chynnwys mewn adroddiad a gynhyrchir gan ClearGlass. Mae hyn yn galluogi'r Ymddiriedolwyr i ddeall yn union beth maent yn ei dalu i'w rheolwyr buddsoddi ac, os ydynt yn dewis gwneud hynny, i gymharu'r costau hyn â chostau cyfartaledd ar y farchnad ar gyfer mandadau tebyg. Mae'r Ymddiriedolwyr yn gweithio gyda'u cynghorydd buddsoddi a'u rheolwyr cronfa i gael dealltwriaeth fanylach o'r costau hyn lle bo angen.
Trosiant Portffolio
Mae'r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o gostau trosiant portffolio (diffinnir costau trosiant portffolio fel y costau sy'n codi o ganlyniad i brynu, gwerthu, rhoi benthyg neu fenthyca buddsoddiadau) sy'n gysylltiedig â'u buddsoddiadau isorweddol, drwy'r wybodaeth a ddarperir gan eu rheolwyr cronfa. Caiff targed trosiant y portffolio ac amrediad y trosiant eu monitro'n flynyddol gyda chymorth cynghorydd buddsoddi'r Cynllun.
Mae'r Ymddiriedolwyr yn derbyn y bydd costau'n codi o drafodion i hwyluso adenillion ar fuddsoddiad a bod lefelau'r costau hyn yn amrywio rhwng dosbarthiadau asedau ac yn ôl arddull fuddsoddi rheolwyr o fewn dosbarth asedau. Yn y ddau achos, mae lefel uchel o gostau trafodion yn dderbyniol ar yr amod ei bod yn gyson â nodweddion y dosbarth asedau ac arddull y rheolwr a thueddiadau hanesyddol. Lle mae gweithgarwch monitro'r Ymddiriedolwyr yn nodi diffyg cysondeb, caiff y mandad ei adolygu. Cefnogir yr Ymddiriedolwyr yn eu gweithgarwch monitro tryloywder costau gan eu cynghorydd buddsoddi.
Gwerthuso Perfformiad a Chydnabyddiaeth Ariannol
Mae'r Ymddiriedolwyr yn asesu perfformiad eu rheolwyr cronfa bob chwarter ac asesir cydnabyddiaeth ariannol eu rheolwyr cronfa bob blwyddyn drwy gasglu data am gostau yn unol â thempledi safonol y diwydiant.