Golygfa o’r Abaty o’r ddôl

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i'r safonau uchaf o ran gonestrwydd, cywirdeb ac atebolrwydd, ac yn ymdrechu i gynnal ei materion mewn modd cyfrifol.

Mae gan y Brifysgol bolisi a gweithdrefnau "Chwythu'r Chwiban" (Datgelu er Lles y Cyhoedd) yn eu lle i alluogi staff, myfyrwyr ac aelodau eraill o'r Brifysgol i godi pryderon sydd o fudd i'r cyhoedd yn ymwneud â honiadau o dwyll, camymddygiad, amhriodoldeb, ymddygiad anfoesegol neu ymddygiad amhriodol. Mae'r polisi a'r gweithdrefnau yn sicrhau yr ymdrinnir â phryderon a godir yn ddidwyll yn gadarn ac yn deg, ac nid yw aelodau sy'n codi'r fath bryderon yn destun i erledigaeth o unrhyw fath.

Polisi Chwythu'r Chwiban (Datgelu er Lles y Cyhoedd)