Recriwtio Diogel a Gwiriadau Datgelu a Gwahardd

Mae arferion recriwtio diogel yn rhan hanfodol o'n trefniadau Diogelu ac Atal, er mwyn sicrhau bod pawb sy'n gweithio gyda phlant (h.y., pobl dan 18 oed) ac oedolion sydd mewn perygl, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn addas ar gyfer y gweithgareddau hyn ac nid ydynt wedi eu gwahardd rhag gwneud hynny. 

 

Gall ein gweithdrefnau recriwtio diogel ar gyfer staff a myfyrwyr gynnwys:  

  • ffurflen gais a/neu ffurflen hunan-ddatgan a fydd efallai yn gofyn i ymgeiswyr am euogfarnau troseddol sydd heb eu disbyddu;
  • gofyn am eirdaon gan drydydd partïon (e.e., cyflogwyr blaenorol) er mwyn archwilio addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer y rôl neu'r cwrs astudio y gwneir cais amdano;
  • gofyn i ymgeiswyr egluro unrhyw fylchau yn eu cyflogaeth neu eu hastudiaethau;
  • cynnal gwiriadau cofnodion troseddol ffurfiol drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal gwiriadau cofnodion troseddol ar gyfer swyddi a phroffesiynau penodol ac mae angen tystysgrif DBS ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn y swyddi a'r proffesiynau penodol hyn, fel rhan o gamau gwirio cyn-recriwtio'r Brifysgol sy’n dilyn cynnig o swydd, gan gynnwys swyddi gwirfoddol. Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr ar gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig penodol  gael gwiriad DBS cyn cofrestru, fel rhan o ofynion mynediad y cwrs, os byddant yn gweithio gyda phlant neu Oedolion mewn Perygl. 

Mathau o Wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd: