Mae'r Canghellor yn llywyddu yng nghyfarfodydd y Llys ac yn cyflwyno graddau a gwobrau eraill mewn seremonïau graddio, a chaiff ei benodi gan y Cyngor, corff llywodraethu'r Brifysgol.

Y Canghellor presennol yw'r Athro Fonesig Jean Thomas FRS FMedSci FLSW, a benodwyd gan y Cyngor ym mis Ionawr 2018 ac a ailbenodwyd ym mis Ionawr 2022.. Mae hi'n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, yn Athro Emeritws mewn Biocemeg Facromoleciwlaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt a hi oedd Meistr diwethaf St Catherine's College, Caergrawnt.

Ar adeg eo hail-benodi yn 2022, meddai'r Fonesig Jean: "Mae'n anrhyddedd mawr gennyf gael fy ail-benodi'n Ganghellor o 1 Ionawr 2022. Mae fy nghysylltiad a'r Brifysgol yn bwysig iawn i mi, a chyda balchder mawr, bum yn bresennol yn Seremoni Wobrwyo Gwobrau Pen-blwedd y Frenhines yn ddiweddar, pan ddyfarnwyd gwobr i'r Brifysgol am 'waith trawsnewidiol i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg solar ledled y byd'. Roedd y newyddion da am y wobr hon yn ddechrau ardderchog i 2022, ac edrychaf ymlaen at ddathlu rhagor o lwyddiannau ym mhob agwedd ar waith y Brifysgol yn y dyfodol. Mae ganddi gryfderau mewn llawer o feysydd".

Yr Athro Fonesig Jean Thomas

Canghellor y Brifysgol