Mae Prifysgol Abertawe’n sefydliad a arweinir gan ymchwil, un sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod, ac mae’n cynnig cydbwysedd neilltuol o addysgu ac ymchwil rhagorol.

Mae Cyngor y Brifysgol, y corff llywodraethu, yn gyfrifol am bennu’r cyfeiriad strategol, ac am gyllid, eiddo, buddsoddiadau a busnes cyffredinol y Brifysgol, Mae’r Cyngor yn cynnwys aelodau allanol, academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr, a benodir yn unol â Statudau’r Brifysgol. Rhai ‘lleyg’ yw’r rhan fwyaf o’r aelodau ac nid oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r Brifysgol. Yn sgil adolygu aelodaeth y Cyngor, rydym bellach am benodi tri aelod lleyg newydd i’r Cyngor.

Mae’r Cyngor yn awyddus i benodi nifer o aelodau lleyg newydd o’r Cyngor dros y 6 mis nesaf.  Fel arfer, penodir aelodau lleyg y Cyngor am gyfnod o bedair blynedd, a gellir eu hailbenodi am gyfnod pellach. Trefnir rhaglen sefydlu ar gyfer aelodau newydd, wedi’i llunio i ddiwallu eu hanghenion unigol.

Nid yw aelodau’r Cyngor yn derbyn cydnabyddiaeth ariannol, ond telir costau teithio rhesymol yn y DU.

Gellir gwahodd aelodau’r Cyngor i wasanaethu ar bwyllgorau eraill y Cyngor hefyd ac i gymryd rhan mewn agweddau eraill ar fywyd y Brifysgol.

Croesewir mynegiannau o ddiddordeb gan ddarpar ymgeiswyr â phrofiad arweinyddiaeth helaeth ar lefel uwch a dealltwriaeth gadarn o lywodraethu corfforaethol. Yn benodol, rydym yn chwilio am Lywodraethwyr gydag Ystadau, Codi Arian, Digidol / TG, y Gymraeg, Cyfreithiol, y Cyfryngau / Marchnata/PR, Pwyllgor Taliadau a phrofiad Masnachol.

Mae rhagor o fanylion am ddyletswyddau a chyfrifoldebau aelodau’r Cyngor i’w gweld yn y ddogfen atodedig.

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad ac mae’n croesawu amrywiaeth o syniadau, ymagweddau a chefndiroedd ein holl bobl. Mae wedi bod yn aelod balch o Siarter Athena SWAN ers 2008 ac rydym yn falch o feddu ar Wobr Arian Athena Swan Sefydliadol. Rydym yn awyddus iawn i gynyddu cynrychiolaeth aelodau BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig). Gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno cais i fod un aelod lleyg o’r Cyngor, a wnewch chi anfon eich CV ynghyd â Mynegiant o Ddiddordeb, gan nodi’r rhesymau dros eich diddordeb mewn ymuno â Chyngor y Brifysgol, at Ysgrifennydd y Brifysgol, Louise Woollard, drwy e-bostio L.A.Woollard@abertawe.ac.uk 

Aelodau lleyg y Cyngor - Pecyn Gwybodaeth