Trysorydd a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth

Mae Prifysgol Abertawe’n sefydliad a arweinir gan ymchwil, un sy’n ffynnu ar archwilio a darganfod, ac mae’n cynnig cydbwysedd neilltuol o addysgu ac ymchwil rhagorol.

Mae Cyngor y Brifysgol, y corff llywodraethu, yn gyfrifol am bennu’r cyfeiriad strategol, ac am gyllid, eiddo, buddsoddiadau a busnes cyffredinol y Brifysgol, Mae’r Cyngor yn cynnwys aelodau allanol, academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr, a benodir yn unol â Statudau’r Brifysgol. Rhai ‘lleyg’ yw’r rhan fwyaf o’r aelodau ac nid oes ganddynt gysylltiad uniongyrchol â’r Brifysgol. Yn sgil adolygu aelodaeth y Cyngor, rydym bellach am benodi tri aelod lleyg newydd i’r Cyngor.

Mae’r Cyngor yn awyddus i benodi Trysorydd Newydd.  Rôl anrhydeddus sydd gan y Trysorydd ac mae ei ddyletswyddau’n cynnwys goruchwylio cyllid y Brifysgol a’i strategaeth ariannol, ond nid yw’n rhan o’r gwaith gweithredol o reoli ariannol beunyddiol sy’n gyfrifoldeb y Prif Swyddog Ariannol.

Mae’r Trysorydd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth, sy’n un o is-bwyllgorau’r Cyngor. Diben y Pwyllgor hwn yw cynghori’r Cyngor ar oblygiadau ariannol cynlluniau strategol a phrosiectau mawr, cymeradwyo cyllidebau gweithredu manwl i’w cyflwyno i’r Cyngor, monitro perfformiad ariannol parhaus yn erbyn cyllidebau a chynghori’r Cyngor ar oblygiadau ariannol cynlluniau cyfalaf.

Mae’r Trysorydd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, sy’n un o is-bwyllgorau’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth. Diben y Pwyllgor hwn yw darparu trosolwg strategol, swyddogaeth arwain a monitro mewn perthynas â phob mater sy’n ymwneud â phensiynau a chynnig argymhellion i’r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth a’r Cyngor fel y bo’n briodol.

Nid yw’r swydd hon yn cael ei thalu, ond telir treuliau.

Bydd yr ymrwymiad amser yn amrywio trwy gydol y flwyddyn, ar draws cyfarfodydd a digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol yn ogystal â chyswllt e-bost a ffôn.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am ddyletswyddau, cyfrifoldebau a phrofiad dymunol yn y ddogfen atodedig.

Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad ac mae’n croesawu amrywiaeth o syniadau, ymagweddau a chefndiroedd ein holl bobl. Mae wedi bod yn aelod balch o Siarter Athena SWAN ers 2008 ac rydym yn falch o feddu ar Wobr Arian Athena Swan Sefydliadol. Rydym yn awyddus iawn i gynyddu cynrychiolaeth aelodau BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig). Gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.

I wneud cais neu i holi’n anffurfiol am y swydd, anfonwch eich CV gyda Mynegiad o Ddiddordeb yn nodi eich rhesymau dros eich diddordeb a gyfeiriwyd at Ysgrifennydd y Brifysgol, Louise Woollard, l.a.woollard@swansea.ac.uk 

Pecyn Gwybodaeth Trysorydd y Brifysgol