CHWARAEWCH BÊL-RWYD TÎM CYNTAF YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Mae ein rhaglen Pêl-rwyd i Fenywod yn cynnig cyfle i chwaraewyr pêl-rwyd addawol gystadlu yn y BUCS.

Drwy'r rhaglen, rydyn ni'n cydnabod ac yn datblygu dawn pêl-rwyd gwych. Mae'r rhaglen wedi'i goruchwylio gan y brif hyfforddwr, Louise Mazzeo, a Sarah Lewis (Uwch-hyfforddwr Cynorthwyol Cymru) sy'n gweithredu fel mentor hyfforddi ar draws y rhaglen.

Ar hyn o bryd, mae ein rhaglen pêl-rwyd yn cystadlu yn y cynghrair ‘Gorllewin 2B’, gyda uchelgeisiau i ddringo pyramid y BICS yn ystod y tymhorau i ddod.

Fel rhan o raglen Chwaraeon Ffocws Chwaraeon Abertawe, mae tîm cyntaf y Menywod wedi cael prif hyfforddwr a ariennir, yn ogystal â sesiynau cryfder a chyflyru wythnosol a chymorth ychwanegol gan y tîm.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n tîm pêl-rwyd, ewch i dudalen we'r clwb ar wefan Undeb y Myfyrwyr.