CROS a PIRLS

Cynhelir yrArolwg Ar-lein Gyrfaoedd mewn Ymchwil (CROS) a'r Arolwg Prif Ymchwilwyr ac Arweinwyr Ymchwil (PIRLS) bob yn ail flwyddyn ac mae'n yn casglu data dienw am amodau gweithio, dyheadau gyrfa a chyfleoedd datblygu gyrfa eraill i staff ymchwil ac arweinwyr ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch.

Mae'r ddau arolwg hwn yn cynnig data gwerthfawr ar gyfer mesur gweithrediad y Concordat, cyflawni a chynnal y Wobr Rhagoriaeth mewn Ymchwil AD ac Athena Swan, a chyflwyniad Amgylchedd Ymchwil y REF gan Unedau Asesu.
 
Mae Grŵp Strategaeth y Concordat yn cynnal adolygiad allanol o'r cynnydd a wnaed wrth roi egwyddorion y Concordat i gefnogi datblygiad ymchwilwyr ar waith ers 2008. Mae Vitae yn annog pob sefydliad i gynnal CROS a PIRLS eleni oherwydd bod yr arolygon yn cynnig data gwerthfawr i'w gynnwys yn yr adolygiad.