Mae Dr Adesola Ademiloye yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Fiofeddygol, lle mae'n cydlynu’r rhaglen gyfnewid rhwng Abertawe a Phrifysgol Texas A&M. Mae'n aelod o Ganolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol (ZCCE). Yn ogystal ag ymchwil, mae Dr Ademiloye yn frwd am addysgu, mentora, stiwardiaeth a chydraddoldeb hiliol. Ar hyn o bryd, mae'n un o gyd-gadeiryddion Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe (SIREN).

Beth yw'ch maes ymchwil?

Rwyf wedi cael fy hyfforddi i fod yn beiriannydd sifil ond rwyf wedi dewis bod yn beiriannydd biofeddygol. Mae fy ymchwil yn croesi meysydd mecaneg gyfrifiadol a ffisioleg, modelu amlraddfa, mecaneg deunyddiau a dulliau rhifiadol. Yn fwy diweddar, rwyf wedi ymddiddori mewn astudio mecaneg peirianneg a deunyddiau biolegol, drwy efelychu deinameg foleciwlaidd a defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Dr Adesola Ademiloye

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Gyhoeddus Ekiti yn Nigeria, roedd gennyf ddiddordeb cryf iawn mewn mecaneg adeileddol a ches i fy nenu i fyd ymchwil academaidd drwy sgyrsiau unigol â fy narlithwyr, yn enwedig Dr Olayiwola Oni.

Yn dilyn fy ngradd israddedig, gwnes i gyflwyno cais i Gynllun Cymrodoriaethau PhD Hong Kong (HKPFS) yn 2012 a sicrhau ysgoloriaeth i gwblhau fy PhD mewn Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Dinas Hong Kong (CityU), dan oruchwyliaeth yr Athro KM Liew, ymchwilydd mecaneg gyfrifiadol y mae ei waith yn cael ei ddyfynnu’n helaeth.

Er gwaethaf fy niddordeb brwd mewn mecaneg adeileddol, roedd dilyn PhD mewn biofecaneg gyfrifiadol yn hynod heriol. Tyfodd fy niddordeb ym maes biofecaneg gyfrifiadol yn raddol o ganlyniad i fentora a chymorth anhygoel goruchwyliwr fy PhD. Yn ail, roedd yn destun chwilfrydedd i mi y gallai'r un technegau rhifiadol roeddwn i wedi eu defnyddio o'r blaen i ddadansoddi cymalau adeileddol mewn adeiladau gael eu defnyddio i fodelu ymddygiadau celloedd coch y gwaed a deunyddiau biolegol eraill mewn cyflyrau iach ac afiach.

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Ar ôl gorffen fy noethuriaeth, gwnes i weithio yn CityU fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol am oddeutu 13 mis. Yna ymunais i â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2018 fel Darlithydd i weithio gydag ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw ym maes peirianneg gyfrifiadol yng Nghanolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol (ZCCE). Gwnes i ddysgu am Brifysgol Abertawe drwy'r Athro Perumal Nithiarasu, a oedd yn un o gyd-gadeiryddion y gynhadledd ryngwladol ar beirianneg fiofeddygol gyfrifiadol a mathemategol (CMBE) a gynhaliwyd yn CityU ym mis Rhagfyr 2013. Gwnes i ddarganfod wedi hynny fod yr Athro Olek Zienkiewicz wedi gwneud cyfraniad arloesol at ddatblygu'r dull elfennau meidraidd yn ystod fy rhaglen PhD. Ers i mi ymuno â Phrifysgol Abertawe rwyf wedi gweithio gyda llawer o gydweithwyr anhygoel eraill. Mae hi hefyd yn fraint fawr i mi bellach fod yn aelod o'r pwyllgor sy'n trefnu'r gyfres o gynadleddau CMBE.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Gellir rhannu fy ymchwil yn fras yn ddwy thema – mecaneg gyfrifiadol a ffisioleg gyfrifiadol. Nod trosfwaol fy ymchwil yw meithrin gwybodaeth ac arloesedd drwy gynnig dealltwriaeth newydd o briodweddau mecanyddol deunyddiau peirianyddol a biolegol drwy fodelu cyfrifiadol ar draws graddfeydd hyd amrywiol. Gan fod cyfansoddiad a ffurfweddiad deunyddiau ar raddfa ficro'n effeithio ar eu hymateb ar raddfa facro, nod fy ymdrechion ymchwil parhaus i ffisioleg gyfrifiadol yw datgelu sut mae newidiadau microsgopig i bilenni celloedd coch y gwaed yn arwain at glefydau sy'n gysylltiedig â system y gwaed megis malaria, diabetes math 2 a thalasemia. Ym maes mecaneg gyfrifiadol, fy nod yw cyfrannu at ddatblygu dulliau rhifiadol uwch megis dulliau heb rwyllau a dulliau gronynnau, y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â phroblemau pwysig o ran peirianneg tanau, diogelu rhag ergyd, a storio ynni adeileddol drwy ymchwilio i ymddygiadau mecanyddol deunyddiau peirianneg (megis gwydr laminedig, graffîn ac electrodau mân-dyllog mewn batris ionau lithiwm) mewn amodau cymhleth a/neu eithafol.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig?

Yn gyffredinol, mae angen gorwel tymor hir ar ymchwil sylfaenol. Er gwaethaf popeth sy'n hysbys am glefydau penodol megis malaria, diabetes math 2 ac anemia'r crymangelloedd, maen nhw'n dal i fod yn gyfrifol am farwolaethau llawer o bobl (oedolion a phlant) ledled y byd.

Rwy'n obeithiol y bydd y ddealltwriaeth newydd a'r data y gellir ei roi ar waith sy'n deillio o fy ymchwil i ffisioleg gyfrifiadol yn helpu i lywio prosesau gwneud penderfyniadau clinigol a chyflenwi cyffuriau a dargedir yn well. Yn ogystal, bydd fy ymchwil i fecaneg gyfrifiadol yn cyfrannu at wneud ein cymdeithas yn fwy diogel a gwyrdd drwy feithrin dealltwriaeth well o fethiant deunyddiau peirianneg, a darparu canllawiau optimeiddio i bartneriaid diwydiannol, gan wella hyd oes cynhyrchion a lleihau gwastraff o ganlyniad i hynny.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?

Ar hyn o bryd, rwy'n ymchwilio i gyfuno metaboledd a mecaneg mewn fframwaith modelu amlraddfa. Gellir defnyddio'r fframwaith cyfrifiadol newydd hwn i ddarparu dealltwriaeth newydd ynghylch sut mae newidiadau metabolig yn arwain at ddatblygiad clefydau sy'n gysylltiedig â'r gwaed megis diabetes math 2, gan baratoi'r ffordd ar gyfer diagnosisau gwell yn y man lle rhoddir gofal a thargedu dulliau o drin clefydau metabolig. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn defnyddio deallusrwydd artiffisial a delweddu i archwilio pathoffisioleg thalasemia ac atherosglerosis. Yn ogystal â'r llwybrau ymchwil hyn, rwy'n ymchwilio i ymddygiad mecanyddol a methiant dyfeisiau storio ynni adeileddol gyda Dr Yang Zhang, fy nghydweithredwr ym Mhrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Nanjing, Tsieina. Er gwaethaf yr heriau o ran sicrhau grantiau ymchwil, rwy'n optimistaidd y bydd fy ymchwil yn gwneud gwahaniaeth anferth.

Darganfod mwy am Dr Ademiloye