Beth yw'ch maes ymchwil?

Daearyddwr dynol ydw i, sydd yn fras yn golygu bod gennyf ddiddordeb yn y ffordd y mae pobl yn uniaethu â'r lleoedd y maent yn byw ynddynt. Yn benodol, mae fy ymchwil yn ymwneud â'r naratifau cymdeithasol, gwleidyddol, diwylliannol a hanesyddol sy'n llunio'r ffordd rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi'r amgylchedd. Mae gan y naratifau hyn ddylanwad enfawr ar sut rydym yn ymateb i argyfyngau ecolegol, ond yn aml ni chaiff eu rôl ei deall yn dda na’i gwerthfawrogi’n ddigonol.

Dr Anna Pigott

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn? 

Wrth ddilyn MSc mewn Dynameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd yn Abertawe, deuthum i ddeall difrifoldeb newid yn yr hinsawdd a cholled ecolegol yn y degawdau diweddar. Erbyn diwedd y radd, roedd gennyf lwyth o gwestiynau o ran yr hyn y gellid ei wneud, ond doedd dim modd ateb y cwestiynau hyn yn llawn gan edrych ar yr wyddoniaeth yn unig. Dechreuais i radd PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol, ac er ei bod yn heriol iawn i ddechrau, ni fyddwn i'n gor-ddweud pethau trwy ddweud i rai o'r syniadau a'r ymagweddau y deuthum ar eu traws yn y maes hwn wneud i mi gwestiynu ac ailfeddwl llawer o'm rhagdybiaethau am y byd. Deuthum o hyd i ffyrdd newydd o feddwl am yr argyfwng amgylcheddol. Helpodd hyn imi wneud synnwyr o'r cyfan a chefais fy ysbrydoli a'm grymuso - sy'n parhau o hyd!

Sut daethoch i weithio yn Prifysgol Abertawe?

Ar ôl sawl blwyddyn o weithio fel hyfforddwr astudiaethau maes ac arweinydd awyr agored yn y DU a'r Eidal, penderfynais i fy mod am ddysgu mwy am newid yn yr hinsawdd a datblygu gyrfa yn y maes hwn. Cefais fy nenu i radd MSc Abertawe mewn Deinameg Amgylcheddol a Newid yn yr Hinsawdd oherwydd bod ganddi amrywiaeth eang o fodiwlau a chan fod myfyrwyr ar y cwrs yn cael eu cefnogi gan fwrsariaeth yr Undeb Ewropeaidd (sy'n ddeniadol iawn i rywun sy'n dychwelyd i addysg!). Nid oeddwn i'n bwriadu aros ar ôl fy MSc, ond rydw i wedi bod yma ers deng mlynedd bellach! Rwy'n teimlo'n gartrefol yn y ddinas ac rwy wedi bod yn ffodus i ddod o hyd i gyfleoedd i barhau â'm gwaith yn y brifysgol drwy ddilyn PhD, Cymrodoriaeth a bellach rwy'n ddarlithydd yn yr Adran Ddaearyddiaeth, wrth ochr mentoriaid a chydweithwyr gwych. Seiliwyd fy ymchwil PhD yn ne Cymru, ac mae rhagor o gyfleoedd ymchwil wedi datblygu o hynny; yn fy achos i bu'n hynod fuddiol imi allu aros mewn un lle a datblygu'r perthnasoedd cymunedol hyn - rhywbeth nad yw'n hawdd bob amser yn y byd academaidd.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil? 

Bydd angen llawer mwy nag atebion technolegol er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol; mae'n gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd y mae llawer ohonom yn deall ein hunain (yn enwedig mewn cymdeithasau gorllewinol) mewn perthynas â gweddill y byd byw. Yn y pen draw, gobeithiaf y bydd fy ymchwil yn cefnogi ymdrechion ehangach - yn y byd academaidd a'r tu hwnt iddo - i nodi a chyfrannu at naratifau diwylliannol sy'n galluogi ffyrdd o fyw sy'n fwy ystyriol o safbwynt ecolegol, er mwyn inni ddysgu a chael ein hysbrydoli ganddynt.

Pa gymwysiadau ymarferol y gallai'ch ymchwil eu cynnig?

Mae Daearyddiaeth yn bwnc hynod eang; mae'n rhyngddisgyblaethol o'i hanfod gan fod cyfnewid syniadau rhwng y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ac amgylcheddol. Rwyf felly wedi cael fy hyfforddi i ddeall problemau o nifer o safbwyntiau gwahanol a chymhwyso dulliau meddwl yn feirniadol i'm hymchwil. Mae angen y math hwn o ymagweddau'n fwy nawr nag erioed er mwyn deall ac ymateb i rai o broblemau cydgysylltiedig mwyaf y byd - gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, hiliaeth a Covid. Yn benodol, rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn helpu i ddangos sut mae'r straeon, y naratifau a'r syniadau a ddefnyddiwn i ddeall y problemau byd-eang hyn yn arwydd uniongyrchol pwysig o drafferthion, ac y bydd y prif drafferthion hynny’n cael effaith sylweddol ar y mathau gwahanol o ddyfodol y gallwn eu creu.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil? 

Rwyf newydd ddychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb mamolaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu modiwl israddedig newydd - Daearyddiaethau Gweithredu ar yr Hinsawdd ac Ymgyrchu Gwleidyddol - sy'n ymgorffori llawer o'm hymchwil flaenorol. Yn nhermau prosiectau newydd, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn rôl coed a choetiroedd mewn naratifau newydd sy'n dod i'r amlwg ynghylch newid yn yr hinsawdd; Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno cais am gyllid i archwilio dimensiynau diwylliannol mentrau plannu coed mawr yn y DU.

Darganfyddwch fwy am Dr Pigott