Yr Her
Gall llygad-dystion i erchyllterau ledled y byd ddefnyddio eu ffonau symudol i gofnodi tystiolaeth mewn amser real. Gall y dystiolaeth hon gan ddinasyddion fod yn ddefnyddiol wrth geisio sicrhau atebolrwydd cyfreithiol, yn enwedig os na fydd ymchwilwyr wedi gallu cael mynediad i’r llefydd hynny ble mae’r erchyllterau wedi digwydd.
Un o’r prif heriau yw sut i ddefnyddio’r dystiolaeth hon i ddod o hyd i ffeithiau a sicrhau atebolrwydd o ran hawliau dynol.
Mae maint y dystiolaeth gan ddinasyddion sy’n cael ei chreu mewn achosion cyfoes o wrthdaro treisgar yn enfawr a hwyrach bydd ymchwilwyr yn ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i’r darnau o dystiolaeth mwyaf perthnasol ar gyfer achos penodol. Gall hefyd fod yn brofiad trawmatig gweld a dadansoddi’r dystiolaeth hon, a lleisir pryderon o hyd am sut gall gydymffurfio â’r safonau derbynioldeb y bydd llysoedd yn gofyn amdanyn nhw.
Y Dull
Ers 2018, mae’r Athro Yvonne McDermott Rees yn Ysgol y Gyfraith Hilllary Rodham Clinton (ar y cyd â myfyrwyr MA a PhD) wedi mynd ati i ymchwilio i’r graddau y bydd tystiolaeth gan ffynonellau agored yn gweddnewid y gwaith o ddod o hyd i ffeithiau ym maes hawliau dynol, a sut y gall technoleg helpu i oresgyn rhai o’r rhwystrau sy’n wynebu’r defnydd o’r dystiolaeth mewn llysoedd.
Yn ogystal ag ymchwil gyfreithiol sy’n seiliedig ar nifer fawr o gyfweliadau gydag ymchwilwyr ym maes hawliau dynol, mae’r prosiectau rhyngddisgyblaethol hyn wedi datblygu offer technolegol newydd i gadw a dadansoddi tystiolaeth gan ffynonellau agored. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys gwaith ar y cyd ag academwyr o Brifysgol Heriot-Watt; Prifysgol Caerwysg; Prifysgol Manceinion; Prifysgol California, Berkeley; Prifysgol Carnegie Mellon a Phrifysgol Ateneo de Manila, a’r defnyddwyr ymchwil/partneriaid mewn diwydiant GLAN; Amnest Rhyngwladol; nifer o gyrff y Cenhedloedd Unedig; Syrian Archive; WAPR – Philippines; VFRAME, a Huridocs.
Ariannwyd y tîm gan yr ESRC; NESTA; Cherish-DE; Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r Gronfa Ymchwil ar Heriau Byd-eang (GCRF).
Yr Effaith
Mae OSR4Rights wedi darparu hyfforddiant ac adnoddau i'r ymchwilwyr, y cyfreithwyr a’r barnwyr sy'n mynd ar drywydd atebolrwydd am droseddau hawliau dynol. Y buddiolwyr yn y pen draw yw dioddefwyr y troseddau hynny sy'n ceisio cyfiawnder, a thystion i erchyllterau sydd yn aml yn cymryd risgiau personol enfawr wrth gofnodi a rhannu'r dystiolaeth hon ar-lein.
Methodolegau ar gyfer ymchwiliadau hawliau dynol
Mae tîm OSR4Rights wedi darparu hyfforddiant i grwpiau fel cyrff canfod ffeithiau'r Cenhedloedd Unedig, ymchwilwyr o Syria, grwpiau alltud Uyghur, Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, INTERPOL, Europol, a staff Cyngres yr Unol Daleithiau, i sicrhau bod arferion gorau ar gyfer cynnal ymchwiliadau yn cael eu dilyn a'u hymgorffori mewn methodolegau.
Drwy ddarparu arweiniad methodolegol, maent wedi sicrhau bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal i'r safonau moesegol a chyfreithiol rhyngwladol uchaf, a bod tystiolaeth ffynhonnell agored yn dderbyniol yn y llys.
Datblygu adnoddau i gynorthwyo ymchwiliadau
Mae'r adnoddau technegol a ddatblygwyd i hwyluso cynnal ymchwiliadau ffynhonnell agored yn arbed amser ac adnoddau i ymchwilwyr – gan eu galluogi i ganolbwyntio ar ddadansoddi beirniadol yn hytrach na gwaith gweinyddol - yn ogystal â chadw cadwyn cystodaeth gwybodaeth.
Mae'r teclyn Auto-Archiver wedi cael ei ddefnyddio i gadw miloedd o ddelweddau a fideos o dystiolaeth o droseddau hawliau dynol yn Wcráin, Israel/Palesteina, Iran a Myanmar, tra bod FireMap a'r teclyn canfod lleferydd casineb wedi cael eu defnyddio mewn ymchwiliadau yn Ethiopia a Sudan.
Dylanwadu ar y defnydd o wybodaeth ffynhonnell agored mewn lleoliadau cyfreithiol
Mae tîm OSR4Rights wedi rhannu ei ganfyddiadau ymchwil yn helaeth mewn hyfforddiant a chyflwyniadau pwrpasol a gyflwynir i filoedd o gyfreithwyr a barnwyr o amrywiaeth o awdurdodaethau yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y Llys Troseddol Rhyngwladol, y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, a'r Mecanwaith ar gyfer Tribiwnlysoedd Troseddol Rhyngwladol. Gweithiodd y tîm ar ganllaw mynediad agored i farnwyr ar werthuso gwybodaeth ffynhonnell agored, a gyhoeddwyd yn Saesneg, Wcreineg, Arabeg, Ffrangeg a Sbaeneg.