Diwylliannau mewn cytgord neu leisiau wedi'u tawelu?

Rydym ni'n archwilio safbwyntiau brodorol ar Batagonia

Wynebau pobl

Credyd llun: ‘Dad-fapio'r orchest’, Nadia Pissano Pailema

Ym 1865, sefydlwyd gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, lle denwyd mudwyr gan apêl benderfynol llywodraeth yr Ariannin am fewnfudwyr o Ewrop. Ers cenedlaethau, mae pobl yng Nghymru wedi dathlu hyn fel stori o wydnwch a chytgord rhyngddiwylliannol – ond pa mor gywir yw'r asesiad hwnnw?

Mae prinder safbwyntiau Brodorol mewn archifau hanesyddol wedi peri ysgolheigion i lunio naratifau unochrog. Mae'r adroddiadau hyn yn pwysleisio arwriaeth a dygnwch y Cymry wrth wthio pobl Frodorol i gyrion eu hanes eu hunain.

Mae tîm cydweithredol, dan arweiniad Dr Geraldine Lublin a'r grŵp ymchwil GEMAS (Grupo de Estudios sobre Memorias Alterizadas y Subordinadas, rhwydwaith ymchwil sy'n canolbwyntio ar atgofion eilradd), yn herio'r canfyddiad hwn drwy newid y ffocws i brofiadau Brodorol a tharfu ar ragdybiaethau hirsefydlog am yr ystod o leisiau sy'n haeddu cael eu clywed.

Mae'r gwaith pwysig hwn yn ymateb i alwadau cymunedau Mapuche Tehuelche i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu cynnwys, wynebu naratifau dominyddol a mynd i'r afael â thangynrychiolaeth hanesyddol profiadau Brodorol.

Adennill Y Naratif

Cyhoeddodd y tîm ymchwil alwad agored am weithiau creadigol a fyddai’n archwilio safbwyntiau Brodorol ar hanes Patagonia ac effaith gwladychu.

Cafwyd cyfraniadau o bob cwr o Chubut, gan rannu straeon bywyd, tystiolaethau ac atgofion a oedd wedi'u hanwybyddu neu eu hymyleiddio gynt. O'r ymatebion hyn daeth pedwar prosiect llawn ysbrydoliaeth oedd wedi eu harwain gan cymunedau, ac maent bellach yn rhan o arddangosfa ddigidol sydd ar gael i wylwyr ledled y byd.

Cynhelir yr arddangosfa ddigidol dairieithog bwerus hon gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddod â hanes yn fyw drwy gerddoriaeth, barddoniaeth, tystiolaethau clywedol a pherfformiadau sy'n cynnig safbwynt newydd ar hanes Chubut. Drwy ehangu’r amrywiaeth o safbwyntiau y gallwn eu cyrchu, mae'r arddangosfa hon yn ein hannog i gwestiynu naratifau un-dimensiwn ac i wrando ar leisiau sydd wedi'u hanwybyddu mewn cofnodion hanesyddol.

Hanes Cyfartal Yn Y Dyfodol?

Lansiwyd yr arddangosfa ar achlysur dathlu 160 mlynedd ers dyfodiad y fintai Gymreig gyntaf i Batagonia, gan gynnig cyfle i fyfyrio ar oblygiadau’r wladychfa honno i'r cymunedau dan sylw.

Mae'r gwaith hwn o herio naratifau a chanfyddiadau unochrog yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru wrth-hiliol, lle mae amryw safbwyntiau yn cael eu dathlu a hanes Cymru yn cael ei astudio yn ei holl 'amrywiaeth a chymhlethdod'. Drwy weithio mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r rhaglen Gwrando - sy'n galluogi artistiaid o Gymru i ddyfnhau eu dealltwriaeth o ieithoedd a threftadaeth Brodorol - mae'r fenter hefyd yn hyrwyddo cenhadaeth Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig.

Bydd y prosiect hefyd yn cyflawni amcanion y Cwricwlwm i Gymru, gan annog pobl ifanc i edrych ar hanes yn feirniadol a gwrando ar leisiau sydd wedi'u hymyleiddio mewn cofnodion hanesyddol.

Yn y pen draw, mae effaith fwyaf arwyddocaol y prosiect yn cael ei mynegi orau drwy eiriau'r bobl Frodorol sy'n rhan ohono wrth i'w lleisiau hawlio sylw wrth adrodd eu stori eu hunain:

"... Wrth eich cyrraedd chi gyda'n zungun, ein lleisiau, ein caneuon, ein hanesion, mae hynny'n hynod arwyddocaol, oherwydd dyna ein newen, ein cryfder. Ond hefyd, fel y dywedon ni wrth berfformio'r prosiect hwn am y tro cyntaf, mae yna gyfnewid o’r ddwy ochr lle mae pwy bynnag sy'n gwrando, pwy bynnag sy'n clywed y lleisiau hyn, yn rhoi rhan ohonynt eu hunain, eu hamser, eu sylw. Maen nhw'n agor ychydig o'u meddyliau a'u calonnau i gadw'r hyn sy'n dod atynt, ac i barhau i'w rannu a'i ailadrodd. Yn hyn mae yna newen hefyd." Iván Paillalaf, Cymuned Chacay Oeste - Laguna Fría, Chubut, yr Ariannin

"Rwy'n ddiolchgar i'r rhai hynny a roddodd y cyfle i ni adrodd sut roedden ni'n byw mewn gwirionedd a sut roedd ein hynafiaid yn byw, hyd heddiw... Diolch Diolch Diolch ..." Agustín Pichiñan, Pichiñan lof o Cerro Condor, Chubut, yr Ariannin

Cwrdd ag arweinydd y prosiect