Yr Her
Mae'n hawdd anghofio pa mor ymylol y mae profiadau LGBTQ+ wedi bod yng Nghymru a Phrydain gyfan. Yn hanesyddol, mae astudiaethau llenyddol a bywgraffiadau wedi tueddu i anwybyddu neu hyd yn oed i guddio bywydau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol (LGBTQ+) yng Nghymru.
Mae'r ymchwil hon i lenyddiaeth LGBTQ+ o Gymru yn datgelu bod pobl queer wedi gwneud cyfraniad pwysig i lenyddiaeth a hanes Cymru a'r byd.
Y Dull
Mae ymchwil yr Athro Kirsti Bohata i lenyddiaeth LGBTQ+ o Gymru'n datgelu bod pobl hoyw wedi gwneud cyfraniad pwysig at lenyddiaeth a hanes Cymru a'r byd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio'n benodol ar fywyd a gwaith llenyddol Amy Dillwyn (1845–1935), a oedd yn ddiwydiannwr ac yn nofelydd yn oes Fictoria. Mae'r Athro Bohata wedi adfer Dillwyn fel awdures allweddol llenyddiaeth Fictoraidd hoyw a dyddiadurwraig y mae ei gwaith llenyddol yn taflu goleuni newydd ar hunaniaethau rhywedd anghonfensiynol a chwant rhwng pobl o'r un rhyw.
Mae'r Athro Bohata wedi golygu antholeg newydd, sef Queer Square Mile: Queer Short Stories from Wales (cyhoeddwyd Chwefror 2022), gan ddod ag oddeutu 50 o straeon byrion o'r cyfnod rhwng 1830 a 2020 at ei gilydd sy'n rhoi lle blaenllaw i waith llenyddol hoyw yng nghanon Cymru. Bydd rhai ohonynt yn ymddangos mewn print am y tro cyntaf.
Yr Effaith
Mae'r canlynol ymysg yr effeithiau mwyaf blaenllaw sydd wedi deillio o ymchwil yr Athro Bohata:
- Mae'r gwaith celf Amy Dillwyn gan Kate Milsom wedi'i arddangos yn Llundain, Cheltenham a Chymru, a thrwy brint Saatchi.
- Mae cerfluniau Mandy Lane a darnau eraill o gelf ganddi'n dathlu ffeministiaeth eiconoclastig a rhywioldeb Dillwyn: mae'r cerflun The Iron on the Dress wedi cael ei ddangos yng Nghaerfaddon, mewn lleoliadau amrywiol yng Nghymru a thrwy arddangosfa ddigidol.
- Defnyddiodd y cwmni theatr hoyw Living Histories waith ymchwil Bohata i greu A Moral Amazon: the story of Amy Dillwyn, a gyflwynwyd mewn gwyliau lesbiaidd a digwyddiadau LGBTQ+.
- Mae Mamwlad, sy'n gyfres ddogfen ar S4C, a’r gyfres History of Wales gan BBC Radio Wales wedi comisiynu cynhyrchwyr i greu rhaglenni dogfen ar Amy Dillwyn drwy ymgynghori â'r Athro Bohata a chynnwys cyfraniadau ganddi, a gwnaeth drafod Dillwyn ar Good Morning ar Radio Wales i nodi canmlwyddiant y bleidlais i rai menywod.
- Gwnaeth Tŷ'r Cwmnïau gomisiynu blog ar Amy Dillwyn i nodi mis hanes LGBTQ+.
- Bu Dillwyn yn destun erthyglau darluniadol yng nghylchgrawn lesbiaidd mwyaf blaenllaw Prydain, Diva (Hydref 2015), ac yn y Western Mail ar gyfer Mis Hanes Menywod.