Yr Her
Mae ymgyrchoedd mudiadau brodorol wedi cynyddu a chyflymu ledled y byd yn ystod y tri degawd diwethaf ac un o’u prif fuddugoliaethau fu sicrhau cydnabyddiaeth ffurfiol o hawliau pobloedd brodorol. Cydnabyddir Confensiwn 169 y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO 169, 1989) a Datganiad y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobloedd Brodorol (UNDRIP, 2007) yn gerrig milltir o bwys. Mae cydymffurfio â’r rhain hefyd yn bwysig o safbwynt 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Chwaraeodd rhanbarth Patagonia rôl benodol yn y broses o greu cenedl yn yr Ariannin. Er bod y Cymry yn Chubut yn rhan o’r poblogaethau hynny a fyddai’n elwa ar y broses yn y pen draw, cafodd pobloedd brodorol eu dadleoli, eu datgymalu a’u dadfeddiannu ar raddfa eang.
Wrth iddyn nhw herio arferion nad ydynt yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth ryngwladol ar hawliau brodorol, mae cymunedau brodorol yn annog yr Ariannin i gydymffurfio nid yn unig â’r ddeddfwriaeth gyfreithiol a’r nodau ar gyfer datblygu cynaliadwy y mae wedi’u mabwysiadu ond hefyd â’r hawliau brodorol sy’n cael eu cynnwys yn ei Chyfansoddiad Cenedlaethol ei hun.