Y Her
Mae manylion symudiadau ac ymddygiad anifeiliaid, yn enwedig rhywogaethau swil megis y llewpart a'r siarc, wedi bod yn ddirgelwch i wyddonwyr ac i'r cyhoedd ers amser maith, gan fod dulliau confensiynol yn rhy gyffredinol, neu ddim yn gweithio ym mhob amgylchedd.
Mae astudiaethau o'r fath, fodd bynnag, yn hanfodol os ydym am ddeall anifeiliaid, yn enwedig yng nghyd-destun cadwraeth anifeiliaid.
Y Dull
Yr Athro Rory Wilson fu'n gyfrifol am y Tag 'Dyddiadur Dyddiol' Clyfar arloesol, sef dyfais olrhain anifeiliaid sy'n ein galluogi i gael cipolwg ar fywydau cudd rhai o'r creaduriaid mwyaf swil a phrin ar y ddaear.
Mae'r tag yn cofnodi hyd at 400 o bwyntiau data yr eiliad a gellir dangos y data mewn delweddau cymhellol, llawn gwybodaeth sy'n dangos symudiadau, ymddygiadau a faint o egni mae'r creadur yn ei ddefnyddio.