Rheoli Rhwystrau yn Afonydd Ewrop yn Addasol

Rydym ni’n gweithio i adfer afonydd sâl Ewrop

Rydym ni’n gweithio i adfer afonydd sâl Ewrop

Y Her

Mae afonydd ymhlith rhai o'r ecosystemau sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn y byd ac maen nhw’n destun rhaglenni adfer drud sy'n costio biliynau i drethdalwyr.

Mae afonydd yn Ewrop yn cael eu darnio i raddau helaeth iawn gan rwystrau megis argaeau mawr, cylfertiau a choredau. Mae'r rhwystrau hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol - dŵr yfed, dyfrhau neu gynhyrchu ynni, ond mae rhwystrau hefyd yn blocio ac yn darnio dyfrffyrdd, yn ynysu cynefinoedd ac yn gwanhau poblogaethau bywyd gwyllt. Gall rhwystrau ochrol, gan gynnwys llifgloddiau a waliau glannau, hefyd ddatgysylltu afonydd oddi wrth eu gorlifdiroedd.

O dan yr arwyddair "Let it Flow!", sef un o brosiectau Horizon 2020 yr UE o’r enw Rheoli Addasol ar gyfer Rhwystrau yn Afonydd Ewrop (AMBER) dan arweiniad Prifysgol Abertawe, cymerodd ymchwilwyr gamau i helpu i ailgysylltu cannoedd o gilomedrau o afon rhag rhwystrau, gan wella ymfudo gan bysgod ac yn datblygu offer i helpu i reoli afonydd Ewrop yn y dyfodol.

Cymhwysodd AMBER reolaeth addasol i weithrediad rhwystrau yn afonydd Ewrop er mwyn adfer y ffordd y bydd nentydd yn cysylltu â’i gilydd, a hynny mewn ffordd fwy effeithiol ac effeithlon. I wneud hyn, datblygodd AMBER offer, modelau a phecynnau cymorth a fydd yn caniatáu i gwmnïau ynni dŵr a rheolwyr afonydd sicrhau'r buddiannau mwyaf posibl gan leihau’r effeithiau ecolegol i'r eithaf. Bydd hyn yn gwella diogelwch ynni, yn helpu i amddiffyn swyddi ac yn hybu cystadleurwydd Ewropeaidd, yn enwedig mewn economïau gwledig.

Y Dull

Daeth AMBER â 20 o bartneriaid Ewropeaidd ynghyd, gan gynnwys academyddion, sefydliadau cadwraeth (WWF, World Fish Migration Foundation), darparwyr ynni (EDF, Sydkraft Hydropower) a chynghorwyr polisi (Canolfan Ymchwil ar y Cyd (JRC) y Comisiwn Ewropeaidd).

Ymgysylltodd y tîm ymhellach â sefydliadau rhanddeiliaid allweddol ledled y byd megis cymdeithasau pysgota, gweinidogaethau’r amgylchedd, asiantaethau pysgodfeydd, ymddiriedolaethau afonydd a darparwyr ynni, dim ond i enwi ychydig.

Darparodd AMBER yr amcangyfrif cynhwysfawr cyntaf o ddarnio afonydd yn Ewrop, yn seiliedig ar ddwyseddau rhwystrau empirig a rhai a fodelwyd. Lluniodd tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr restr gychwynnol gynhwysfawr o rwystrau mewn afonydd ar  draws 36 o wledydd Ewropeaidd. Fe wnaethon nhw arolygu 2,715 km o 147 o afonydd er mwyn gwirio dwysedd y rhwystrau yn y maes. Fe wnaethant hefyd fodelu lleoliad a nifer y rhwystrau sydd ar goll. 

Mae Atlas Rhwystrau AMBER bellach yn cynnwys tua 700,000 o gofnodion rhwystrau wedi'u mapio, ac mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn gweithio gyda phartneriaid i ddiweddaru a gwella'r rhestr hon. Hyd yn hyn, mae setiau data rhwystrau ychwanegol wedi dod i law o'r Almaen, Awstria, Rwmania, Hwngari a'r Weriniaeth Tsiec. Mae'r gwaith hwn, a gefnogir yn rhannol gan brosiect Danube LifeLines (DLL), yn cynnwys cydgordio rhestrau cenedlaethol, gwirio lleoliadau a chofnodion dyblyg posib, a nodi rhwystrau nad ydynt eto wedi'u cynnwys yn yr Atlas. Felly, bydd y setiau data ychwanegol yn ategu'r rhestr bresennol, a chaiff nifer y cofnodion sy'n wirioneddol newydd eu cadarnhau yn dilyn rheoli ansawdd. 

Mae angen i reolwyr adnoddau allu mesur darnio nentydd, asesu effeithiau a buddion rhwystrau, a gwneud penderfyniadau gwell a gwybodus. Datblygodd tîm AMBER set o offer yn seiliedig ar rwystrau presennol a rhwystrau yn y dyfodol, gan ystyried sefyllfaoedd 'beth pe bai'. 

Roedd yr offer yn cynnwys: 

  1. Atlas Rhwystr AMBER:Y trosolwg mwyaf cynhwysfawr o'r wybodaeth sydd ar gael am rwystrau yn Ewrop, sy'n dangos bod tua 700,000 o rwystrau wedi'u mapio. 
  1. AMBER Barrier Tracker : Mae'r ap citizen-science yn helpu pobl i gofnodi rhwystrau mewn afonydd a llenwi bylchau mewn rhestrau Ewropeaidd. Mae Barrier Tracker V2 yn cynnwys opsiynau i adrodd am rwystrau hydredol a strwythurau ochrol, megis waliau glannau, llifgloddiau ac argloddiau. 

Lawrlwythwch yr ap: Android – Barrier Tracker V2  |  iOS – Barrier Tracker. Rhagor o wybodaeth: amber.international. 

Disgrifir mwy o offer yn y brîff polisi hwn.Mae AMBER wedi cael cyllid gan Raglen Ymchwil ac Arloesi Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan Gytundeb Grant 689682. 

Yr Effaith

Canfu ymchwil sy'n deillio o AMBER fod o leiaf 1.2 miliwn o rwystrau yn afonydd Ewrop (dwysedd cymedrig = 0.74 rhwystr/km), ac mae 68% ohonynt yn strwythurau sydd ag uchder isel (<2m), megis cwlferi, rampiau a rhydau. Mae cofnodion presennol am rwystrau yn tanamcangyfrif nifer gwirioneddol y rhwystrau o tua 61%, ond mae hyn yn amrywio'n sylweddol rhwng gwledydd. 

Mae rhwystrau ym mhob afon a arolygwyd yn Ewrop, ond mae afonydd sydd heb eu darnio i raddau helaeth i’w cael o hyd yn y Balcanau, Sgandinafia, gwledydd y Baltig, a rhannau o dde Ewrop. Yn y DU, mae 99% o fasnau afonydd wedi'u darnio gan rwystrau artiffisial. 

Cyfrannodd canfyddiadau AMBER at lywio polisi adfer afonydd yn Ewrop, gan gynnwys Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE ar gyfer 2030 a’i huchelgais i adfer o leiaf 25,000 km o afonydd i gyflwr lle maent yn llifo’n rhydd erbyn 2030. Mae Atlas Rhwystrau AMBER, ynghyd ag offer gwneud penderfyniadau ategol, yn parhau i helpu i nodi lle gallai ailgysylltu afonydd sydd wedi’u darnio arwain at fanteision ecolegol sylweddol. 

Mae effaith gadarnhaol y prosiect ar afonydd Ewropeaidd yn cynnwys: 

  • Creu tri brîff polisi i hysbysu llunwyr polisi a chyfrannu'n uniongyrchol at y Cytundeb Gwyrdd Ewropeaidd. 
  • Dros 30 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid, gan gynnwys cyhoeddiad yn Nature. 
  • Rhyddhau 311km o afonydd rhag rhwystrau yn Nenmarc 
  • Gwella mudo pysgod yn Argae Poutès yn Ffrainc drwy ddefnyddio strategaethau rheoli addasol 
  • Cyfrannu at ddileu coredau nas defnyddir yn y DU, Iwerddon a Denmarc 
  • Datblygu offer i fonitro tynnu coredau, gan gynnwys:  
  • synhwyro o bell drwy ddefnyddio dronau https://youtu.be/ekCeK2MhSio 
  • arolwg o gymunedau pysgod gan ddefnyddio technegau eDNA yn afonydd Allier yn Ffrainc, Guadalhorce a Nalón yn Sbaen, ac yn nalgylch  afon Ness yn yr Alban, afon sy’n arwyddocaol iawn 
  • Creu'r cylchgrawn Let It Flow i rannu canlyniadau, syniadau, a'r weledigaeth ar gyfer ailgysylltu afonydd 
  • Cynnal y weminar Smart Ways to Improve River Connectivity  ym mis Mehefin 2020, gyda 600 o gyfranogwyr  ledled y byd. 

Gan adeiladu ar AMBER:ymchwil barhaus

Mapio rhwystrau ochrol. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn ymestyn y gwaith y tu hwnt i strwythurau sy'n rhwystro symudiad ar hyd afonydd, i rwystrau sy'n gwahanu sianeli afonydd oddi wrth eu gorlifdiroedd . Mae arolygon cerdded, sy'n cwmpasu tua 853 km o afonydd mewn saith dalgylch ar draws tair gwlad, wedi nodi tua 1,700 o rwystrau ochrol, gan gynnwys waliau glannau, llifgloddiau, argloddiau ac argorau. Mae'r arsylwadau maes hyn yn cael eu cyfuno â geometreg rhwydweithiau afonydd, dolennedd, nodweddion dyffrynnoedd a dangosyddion o bwysau dynol, er mwyn datblygu a phrofi modelau gofodol sy'n amcangyfrif lle mae'n debygol y bydd rhwystrau ochrol yn bodoli ar draws Ewrop. Bydd opsiynau adrodd newydd yn Barrier Tracker V2 hefyd yn helpu i gasglu arsylwadau o'r strwythurau hyn, a anwybyddwyd yn flaenorol. 

Dod o hyd i groesfannau afon-ffordd sydd wedi cael eu hesgeuluso. Mae dadansoddiad cyflenwol sy'n cwmpasu Ewrop gyfan yn defnyddio rhwydweithiau digidol o ffyrdd ac afonydd i nodi ac asesu strwythurau croesi posibl, gan gynnwys cwlferi, rhydau a phontydd, a allai fod ar goll o restrau confensiynol o rwystrau. Er nad yw pob croesfan yn rhwystro symudiad, gall rhai gyfyngu ar lwybr pysgod a lleihau mynediad at gynefinoedd oerach i fyny'r afon yn ystod cyfnodau pan fydd tymheredd yr afon yn uchel. Drwy gysylltu lleoliadau croesi a'r tebygolrwydd o basio ag argaeledd lloches dŵr oer i fyny'r afon, nod yr ymchwil hon yw tynnu sylw at safleoedd blaenoriaeth ar gyfer gwiriadau maes a gwelliannau cysylltedd yn y dyfodol. 

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Affordable and clean energy UNSDG
Nod Cynaliadwy y CU - bywyd o dan y dwr
UN Sustainable goal - Life on Land
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe