Mangrofau, Newid yn yr Hinsawdd, a'r Rhaglen Monitro Amgylchedd Gorllewin Affrica'n Barhaus (WACEM)

Rydym yn adfer mangrofau

We are restoring mangroves

Y Her
Mae newid yn yr hinsawdd a diraddiad cynefinoedd yn peryglu ecosystemau mangrofau ledled y byd. Fodd bynnag, maen nhw ymysg y cynefinoedd mwyaf cyfoethog o ran carbon ar y blaned. Mae eu cadw a’u hehangu yn strategaeth allweddol i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae Gambia ymysg y gwledydd tlotaf yn Affrica o ganlyniad i golli cyfalaf dynol yn ddinistriol yn ystod y 22 mlynedd diwethaf o arwahanrwydd gwleidyddol. Mae coedwigoedd mangrof helaeth ar hyd afon Gambia, sy’n helpu i gynnal bioamrywiaeth gyfoethog, cynhyrchiant bwyd, twristiaeth ac sy’n ategu treftadaeth ddiwylliannol y bobl. Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd, lefel y môr yn codi, coedwigoedd yn gwywo a chamreoli’n bygwth y coedwigoedd mangrof a’r bywydau sy’n dibynnu arnynt.

Y Dull

Trwy wneud cais am gyllid gan GCRF a’i dderbyn, roedd modd i dîm prosiect o bum gwyddonydd o Brifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Geoff Proffitt, ymgynghori â rhanddeiliad ac ymweld â Gambia i gynnal amrywiaeth o weithgareddau.

Casglodd y tîm gymorth gan randdeiliaid, gan gynnwys:

Roedd modd i’r tîm o Brifysgol Abertawe, ymchwilio i fygythiadau yn Gambia a chynnal asesiad cynhwysfawr o goedwigoedd mangrof Gambia, asesu adnoddau dŵr a datblygu dulliau adfer mwy effeithiol.

Ymgysylltodd y tîm â staff lleol, myfyrwyr a grwpiau cymunedol i gynnig adnoddau a hyfforddiant.

Yr Effaith

Bydd y rhaglen ymchwil yn:

  • galluogi Gambia i wneud cais am gyllid carbon REDD+ rhyngwladol i gefnogi bywoliaethau cymunedol cynaliadwy, diogelwch bwyd a dŵr, a rhaglenni cadw ac adfer mangrofau;
  • cefnogi dulliau rheoli a pholisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddefnyddio cyfalaf naturiol yn gynaliadwy;
  • cynnig data gwyddonol i gefnogi ymdrechion parhaus i ailgoedwigo mangrofau;
  • grymuso pobl leol i fynd i’r afael â phroblemau amgylcheddol.

Mae gan goedwigoedd mangrof rôl hanfodol wrth gefnogi cymunedau drwy weithgareddau economaidd gymdeithasol. Felly, bydd yr wybodaeth a’r profiad a geir o fudd i gymunedau lleol ac arferion cadw ac adfer mangrofau ehangach.

Ar sail y gwaith a wnaed hyd yn hyn, ein bwriad yw sefydlu Rhaglen Monitro Amgylchedd Gorllewin Affrica’n Barhaus (WACEM) a chyfleuster ymchwil, a fydd yn cynnwys ymchwilwyr a staff o Gambia, a’u cefnogi gan wyddonwyr a myfyrwyr rhyngwladol; gan wneud hwn yn brosiect cydweithredu byd-eang go iawn.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Gweithredu Hinsawdd
Nod Cynaliadwy y CU - Bywyd ar y Tir
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Eicon dyfodol cynaliadwy