Mae coedwigoedd yn dal carbon o'r atmosffer yn y coed. Mae peth o'r carbon hwn yn cronni yn y pridd yn sgil cwympo i'r ddaear wrth i'r coed golli dail a brigau. Mae'r pridd yn un o'r cronfeydd mwyaf o garbon ar y ddaear, gan storio mwy o'r elfen hon na'r atmosffer a'r biomas ar wyneb y ddaear gyda'i gilydd.
Pan fo coedwigoedd yn llosgi, caiff symiau anferth o'r carbon maent yn ei storio eu hallyrru; fodd bynnag, wrth i lystyfiant yn yr ardaloedd a losgwyd ddechrau aildyfu, mae'n tynnu'r carbon hwn yn ôl o'r atmosffer.
Mae hyn yn rhan o'r cylch arferol o adfer ar ôl tân. Fodd bynnag, os yw'r llystyfiant yn aildyfu mewn modd araf neu anghyflawn, er enghraifft lle bo tir amaethyddol wedi disodli coedwigoedd trofannol, mae'r carbon nad yw'n cael ei dynnu o'r atmosffer yn aros yno ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Mae hyn yn rhan o'r cylch arferol o adfer ar ôl tân. Fodd bynnag, os yw'r llystyfiant yn aildyfu mewn modd araf neu anghyflawn, er enghraifft lle bo tir amaethyddol wedi disodli coedwigoedd trofannol, mae'r carbon nad yw'n cael ei dynnu o'r atmosffer yn aros yno ac yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.
Sut mae cynnydd yn nifer y tannau coedwig a golosgi biomas yn effeithio ar hyn?
Y dull
Gan gydweithio ag ymchwilwyr ledled y byd, teithiodd yr Athro Stefan Doerr a Dr Christina Santin i gyfandiroedd gwahanol er mwyn astudio tanau coedwig.
Buont yn cynnal arbrofion dan reolaeth a oedd yn cynnwys cynnau cyfres o danau coedwig. O hyn, ac o danau gwyllt a ddechreuodd yn naturiol, cymerodd y timau samplau o'r pridd a'r biomas ar wyneb y ddaear cyn y tanau ac ar eu hôl. Nid yw'r holl lystyfiant yn cael ei ddinistrio drwy losgi ond mae peth ohono'n cael ei droi'n siarcol. Mae siarcol yn cynnwys lefelau uchel o garbon ac mae'n gwrthsefyll diraddio, felly gellir ei storio mewn pridd am gyfnodau hir.
Yn seiliedig ar y data a gasglwyd a'r dadansoddiad o allyriadau yn sgil tanau byd-eang a wnaed gyda Dr Matthew Jones (Canolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil Newid yn yr Hinsawdd) a Guido van der Werf (Vrije Universiteit, Amsterdam), bu modd mesur yn fyd-eang yr allyriadau carbon i'r atmosffer yn sgil tanau a'r siarcol a gynhyrchwyd yn yr hinsawdd bresennol a'r amgylchiadau a ragwelir yn y dyfodol.
Yr effaith
Mae cynnydd yn y tymheredd byd-eang a sychderau difrifol yn arwain at ragor o danau coedwig mewn llawer o ranbarthau, sy'n golygu y gall rhai coedwigoedd a oedd yn ddalfeydd carbon effeithiol, droi'n ffynonellau carbon. Gall hyn gyfrannu ymhellach at newid yn yr hinsawdd; fodd bynnag, roedd y tîm yn gallu dangos hefyd fod y siarcol a gynhyrchir yn ystod tân yn gallu helpu drwy weithredu fel byffer yn erbyn allyriadau carbon. Mae'r siarcol hwn yn diraddio'n fwy araf ac mae'n cynnwys mwy o garbon na llystyfiant marw. Felly, mae'n gallu cronni yn y pridd am ganrifoedd, gan weithredu fel dalfa garbon effeithiol. Dangosodd eu dadansoddiad fod y siarcol a gynhyrchir yn ystod tanau gwyllt gyfwerth â 12 y cant o allyriadau carbon yn sgil tanau. Mae hyn yn golygu bod siarcol yn gynnyrch arwyddocaol tanau gwyllt ac yn elfen bwysig o'r cylch carbon byd-eang.
Mae hyn yn newyddion da i ryw raddau, er bod allyriadau carbon o ganlyniad i weithgarwch dynol a niferoedd cynyddol o danau gwyllt - yn enwedig datgoedwigo a thanau ar dir mawn - yn parhau i beri bygythiad difrifol i hinsawdd y byd.