Y Her
Prif ffocws yr ymchwil yw arloesi, a sut mae unigolion, grwpiau, sefydliadau ac ati, yn debygol o ymateb wrth ddod ar draws achos penodol o arloesi am y tro cyntaf, neu ar ôl ei ddefnyddio (h.y. mae’n rhywbeth newydd iddyn nhw, ac felly’n gorgyffwrdd rywfaint â thema rheoli newidiadau). Yr her gyffredinol felly yw adnabod y materion hynny sydd fwyaf tebygol o wella neu lyffetheirio derbyn achosion penodol o arloesi. Mae llawer o'r gwaith wedi bod yn canolbwyntio ar arloesi digidol, a'r hyn sy'n cymell ac yn cyfyngu ar y graddau y bydd yr achosion hyn o arloesi yn cael eu derbyn pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno. Fodd bynnag, nid yw'r gwaith wedi'i gyfyngu i'r agenda ddigidol, ac mae hefyd yn ystyried arloesi yn yr ystyr ehangaf, ar ôl archwilio cyn hynny gysyniadau megis mathau newydd o amodau cyflogaeth yn yr economi fodern yn ogystal â’r ffordd y mae strategaethau a pholisïau llywodraethol penodol yn debygol o gael eu derbyn.
Y Dull
Gwnaed y gwaith yn bennaf (ond nid yn gyfan gwbl) drwy broses o ddal, dadansoddi a dehongli data cynradd; mae'r technegau a ddefnyddir yn aml yn cynnwys dulliau meintiol ac ansoddol, gan gynnwys Modelu Hafaliadau Strwythurol (SEM) a Dadansoddi Cymharol Ansoddol (fsQCA), er bod rhai prosiectau ymchwil wedi cynnwys y defnydd o dechnegau dadansoddi data yn seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial (AI) - yn bennaf ar ffurf rhwydweithiau niwral heb oruchwyliaeth. Seilir yr ymchwil yn y “byd go iawn” ar y cyfan, ac fel arfer bydd yn gydweithredol ei natur, ac ymhlith y prosiectau cydweithredol gwnaed gwaith ar y cyd â British Airways, British Telecom, Fujitsu, Parth Menter Port Talbot, Partneriaeth Blue Arrow/John Lewis, Llywodraeth Cymru, nifer o bartneriaid llywodraethol rhanbarthol ar y lefel ryngwladol megis partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd (prosiectau INTERREG IIIC Y DWYRAIN), a nifer fawr o lywodraethau y tu allan i'r UE drwy noddi ysgoloriaethau PhD. Derbyniwyd cyllid neu adnoddau drwy rodd gan y rhan fwyaf o’r partneriaid a fu’n cydweithio.
Yr Effaith
Mae arloesi wedi bod yn rhan allweddol o’n bywyd ni, ac mae’n parhau i fod felly. Mae’n ffynhonnell llif gyson o heriau yn y broses o ddeall yn well ffactorau sy'n dylanwadu ar ba mor debygol ydyn ni o dderbyn a defnyddio datblygiadau newydd o'r fath yn barhaus, boed yn gynnyrch, gwasanaethau, polisïau, ac ati. Felly, mae gwaith ar y cyfan yn effeithio ar y rheiny sy'n dymuno rhoi rhywbeth newydd ar waith yn llwyddiannus neu sydd â diddordeb mewn deall sut y bydd eu prosiectau arloesi yn cael eu derbyn yn ogystal â sut y gellir gwella'r tebygolrwydd ein bod yn derbyn y rhain, neu i'r gwrthwyneb, beth yw'r agweddau allweddol sy’n cyfyngu ar hyn. Hwyrach y bydd yn cael effaith ar ystod o lefelau; yn llywodraethol, yn gymdeithasol, bydd yn effeithio ar sefydliadau mawr a mân yn ogystal ag ar yr entrepreneur unigol sy’n meddu ar syniadau. Mae gwaith wedi cael ei ddefnyddio (a’i ariannu) gan Lywodraeth Cymru, amryw o asiantaethau llywodraethau rhanbarthol yr UE, a nifer fawr o bartneriaid eraill yn y sectorau preifat a chyhoeddus sydd wedi cydweithio. Mae’r gwaith, sydd â mwy na 9,000 o ddyfyniadau am yr ymchwil yn ymddangos mewn cyfnodolion academaidd, astudiaethau PhD a thraethodau ymchwil eraill yn ogystal ag adroddiadau yn y sector cyhoeddus a phreifat, wedi dylanwadu ar farn a meddwl academyddion, ymgeiswyr ar gyfer gradd ymchwil, sefydliadau a chyrff llywodraethol. Mae ymgeiswyr doethurol a oruchwyliwyd nes iddyn nhw gwblhau'n llwyddiannus wedi derbyn swyddi yn y sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd, gan gynnwys mewn sefydliadau academaidd ledled y byd, mewn asiantaethau llywodraethol ac yn Nyffryn Silicon.