"Roedd y cyfle i fod yn rhan o’r neges eleni yn gyfle unigryw na allwn ei wrthod. Mae’r Urdd wedi bod yn rhan annatod o’m mywyd i ers blynyddoedd, ac mi roeddwn i’n awyddus i elwa ar y cyfle hwn i fod yn rhan o ymgyrch sy’n ceisio mynd i’r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol yn erbyn menywod a cheisio eu grymuso i sicrhau dyfodol mwy cyfartal.
"Rwyf i a’r criw wedi elwa o’r cyfeillgarwch sydd wedi datblygu rhyngom ni i gyd ond hefyd gyda'r Urdd. Rydyn ni gyd wedi gallu dod at ein gilydd drwy’r sesiynau ar-lein o wahanol lefydd yng Nghymru ac o gefndiroedd academaidd amrywiol, gan ddod i adnabod ein gilydd yn well a chydweithio ar bwnc rydyn ni gyd yn teimlo’n gryf amdano.
"Drwy gyfrannu i’r Neges dwi wedi dod yn fwy hyddysg am y pwnc ac am ffyrdd i weithredu er mwyn sicrhau mwy o amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arweinwyr, arloeswyr, a dinasyddion y byd."