Gall rhai myfyrwyr Mwslimaidd fod yn anfodlon cymryd benthyciad myfyrwyr mae ganddynt hawl iddo, oherwydd bod llog yn cael ei godi ar y benthyciadau hyn ac nid yw hyn yn gydnaws â chyfraith Sharia. Mae Cyfraith Sharia Islam yn gwahardd talu a derbyn llog am am elw - 'Riba' yw'r enw am hyn. Codir llog ar fenthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ôl graddfa symudol sy'n seiliedig ar y Mynegai Prisiau Manwerthu +3% (gall amrywio gan ddibynnu ar incwm). Er bod llog proffidiol yn cael ei godi ar fenthyciadau myfyrwyr a bod rhaid eu had-dalu, nid yw llog yn cael ei godi ar unrhyw grantiau myfyrwyr a ddarperir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac nid oes rhaid eu had-dalu. Felly, disgwylir y byddai'r myfyriwr yn dewis yr opsiwn hwn pe bai'n gymwys.

Cynghorir myfyrwyr i wneud cais i Gyllid Myfyrwyr - ni waeth a ydynt am dderbyn y benthyciad ai peidio. Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr fod yn gymwys am grantiau ac mae'r rhain yn cael eu hasesu yn yr un modd â'r benthyciad myfyrwyr. Yn ogystal, mae'r Fwrsariaeth ar Sail Incwm, sy'n cael ei chynnig gan Brifysgol Abertawe, yn cael ei hasesu ar sail gwybodaeth am incwm yr aelwyd a ddarperir wrth wneud cais i Gyllid Myfyrwyr. Os nad yw myfyriwr yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr, ni fydd y brifysgol yn derbyn yr wybodaeth hon ac, o ganlyniad, gall y myfyriwr golli'r cyfle i gael bwrsariaeth os yw'n gymwys. Unwaith eto, nid yw llog yn cael ei godi ar fwrsariaethau ac nid oes rhaid eu had-dalu, felly maent yn gydnaws â Chyfraith Sharia.

Dyma rai ffynonellau eraill o gyllid a allai fod ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig sydd am gydymffurfio â Chyfraith Sharia.

  • Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau'r Brifysgol
  • Gwaith rhan-amser
  • Arian gan ymddiriedolaethau ac elusennau
  • Cyfrifon banc Cyfraith Sharia
  • Benthyciadau di-log gan fanciau Islamaidd

Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau'r Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig nifer o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau yn ogystal â'r Fwrsariaeth ar Sail Incwm a nodwyd uchod. Dyma rai ohonynt:

Ysgoloriaeth Rhagoriaeth sy'n cael ei dyfarnu i fyfyrwyr israddedig sydd wedi ennill graddau AAA yn eu harholiadau Safon Uwch neu arholiadau cyfatebol. Mae'r ysgoloriaeth yn talu £3,000 ac mae'n cael ei rhannu dros dair blynedd, ar yr amod bod y myfyriwr yn bodloni targedau dilyniant.

Ysgoloriaeth Teilyngdod  sy'n cael ei dyfarnu i fyfyrwyr israddedig sydd wedi ennill graddau AAB yn eu harholiadau Safon Uwch neu arholiadau cyfatebol. Mae'r ysgoloriaeth yn talu £2,000 ac mae'n cael ei rhannu dros dair blynedd, ar yr amod bod y myfyriwr yn bodloni'r targedau dilyniant.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau adrannol ar gael hefyd. Dylech gysylltu â'ch adran am wybodaeth ynghylch unrhyw ysgoloriaethau a bwrsariaethau penodol sydd ar gael.

Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael gan y Brifysgol hefyd. Mae gwybodaeth i'w chael ar wefan y Brifysgol am ysgoloriaethau a bwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig sy'n astudio naill ar raglen a addysgir neu raglen ymchwil.

Gwaith Rhan-amser

Mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe Barth Cyflogadwyedd sy'n helpu myfyrwyr i chwilio am gyflogwyr graddedigion, gwaith rhan-amser, interniaethau a lleoliadau gwaith. Mae'n rhaid i fyfyrwyr gofrestru i ddefnyddio'r Parth Cyflogadwyedd ond, ar ôl iddynt gofrestru, gallant fanteisio ar ddigwyddiadau rhwydweithio a hyfforddiant am ddim sy'n cael eu trefnu gan yr Academi, copi o gylchgrawn blynyddol y Parth Cyflogaeth, cyflwyniadau i gynigion eraill yr Academi a gwahoddiad i ginio blynyddol yr Academi. Am ragor o wybodaeth, ewch i'r Parth Cyflogaeth.

Arian gan Ymddiriedolaethau ac Elusennau

Gall myfyrwyr gysylltu ag ymddiriedolaethau ac elusennau am gymorth ariannol i'w helpu wrth iddynt astudio yn y Brifysgol. Rydym yn cyfeirio myfyrwyr at y ddau ganllaw hyn:

The Grants Register a gyhoeddir gan Palgrave and Macmillan - mae'r cyhoeddiad hwn yn llyfrgell y brifysgol. Mae'r llyfr hwn yn darparu gwybodaeth am y dyfarniadau sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig gan ymddiriedolaethau ac elusennau a'r meini prawf cymhwyso. 

The Alternative Guide to Funding – mae'r cyhoeddiad hwn ar gael ar-lein yma: https://www.postgraduate-funding.com/. Mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio i'r cyhoeddiad hwn, felly mae ar gael am ddim i'n myfyrwyr. Unwaith eto, mae'r cyhoeddiad hwn yn nodi cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig gan ymddiriedolaethau ac elusennau.

Cyfrifon Banc Sharia

Ar hyn o bryd, Banc Al Rayan yn darparu cyfrifon banc sy'n gydnaws â Chyfraith Sharia. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn a sut i wneud cais, ewch i'w gwefannau.

Benthyciadau di-log gan fanciau Islamaidd

Ar hyn o bryd, mae Banc Al Rayan yn darparu gwasanaethau ariannol ychwanegol megis: gwasanaethau cyllid tai, cynilo a buddsoddi. I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r gwasanaethau sydd ar gael, ewch i'w gwefan.

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymchwilio i'r posibilrwydd o gynnig gwasanaeth ariannol amgen i fyfyrwyr na fyddent yn gwneud cais am fenthyciad safonol i fyfyrwyr oherwydd Cyfraith Sharia. Bydd pwyllgor cynghori ar Gyfraith Sharia yn goruchwylio'r gwasanaeth hwn. Ar hyn o bryd, rydym yn aros am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth ariannol amgen hwn, ond byddwn yn darparu gwybodaeth cyn gynted ag y bydd y Llywodraeth yn gwneud cyhoeddiad.

Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe

Mae Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe wedi'i sefydlu i helpu myfyrwyr y DU a'r UE sy'n astudio ar gyrsiau amser llawn neu ran-amser ac sy'n wynebu anawsterau ariannol. Un o feini prawf pennaf y gronfa yw bod myfyrwyr wedi cymryd yr holl arian mae ganddynt hawl iddo drwy fenthyciad myfyrwyr i gael eu hystyried am gymorth gan y gronfa - mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr Mwslimaidd hefyd. Nid yw'r gronfa yn fath o gyllid. Nid oes bwriad newid meini prawf Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe yn y maes hwn. Os hoffech siarad ag aelod o dîm Arian@BywydCampws am Gronfa Cyfle Prifysgol Abertawe, gallwch wneud hyn drwy ffonio 01792 606699, neu drwy e-bostio hardshipfunds@abertawe.ac.uk 

Canllaw cryno yn unig yw'r wybodaeth hon, a dylid cyfeirio myfyrwyr sydd am gael eglurhad o'r materion hyn at Imam y Brifysgol,  Mohsen El-Beltagi, neu Ffederasiwn Cymdeithasau Myfyrwyr Islamaidd.