Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Dim Tlodi

Mae byw mewn tlodi yn golygu ei chael hi'n anodd diwallu’ch anghenion mwyaf sylfaenol, gan gynnwys mynediad at fwyd, dŵr glân, addysg, gofal iechyd, swydd a chartref diogel ac iach.

Mae effaith tlodi ar fywydau pobl yn ddwys ac yn bellgyrhaeddol.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM DLODI?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â thlodi.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.