Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig – Eicon Dŵr glân a glanweithdra

Mae dŵr yn hanfodol i bob math o fywyd a phan gaiff ei amddifadu o ddŵr glân a reolir yn dda, ni all yr un peth byw oroesi am yn hir.

Drwy ddarparu mynediad at ddŵr glân, diogel, glanweithdra da, addysg hylendid a ffyrdd o reoli, ailddefnyddio a bod yn gyfrifol gyda'n dŵr, byddwn ni’n rhoi’r cyfle i fywyd oroesi a ffynnu.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM DDŴR GLÂN A GLANWEITHDRA?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â dŵr glân a glanweithdra.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.