Nod Datblygu'r Cenhedloedd Unedig - Eicon Gwaith Boddhaol

Mae gwaith boddhaol a thwf economaidd yn golygu y gall pawb ddewis swydd ddiogel, sicr a boddhaus a chanddi gyflog teg, a hynny o’i wirfodd. Mae'n golygu, waeth beth fo'ch rhyw, eich oedran, eich cenedligrwydd neu’ch gallu, na chewch chi eich eithrio rhag cyfleoedd gwaith.

Mae'n golygu terfyn ar lafur plant a llafur gorfodol a chaethwasiaeth fodern; a bod pawb yn elwa ar economi sy'n tyfu.

Gallwch chi ddarllen rhagor am y Nod Datblygu Cynaliadwy hwn o eiddo’r Cenhedloedd Unedig yma.

 

PA RAI YW EICH TEIMLADAU, EICH BARN A’CH SYNIADAU AM WAITH BODDHAOL A THWF ECONOMAIDD?

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Hoffen ni ichi ddisgrifio'ch barn, eich teimladau, eich pryderon neu'ch gofidion yn ogystal â'ch syniadau a'ch dyheadau mewn perthynas â gwaith boddhaol a thwf economaidd.

I gyflwyno'ch cynnig a chael y cyfle i ennill hyd at £250 mewn talebau, cliciwch ar y botwm ar y dde.