Cydweithrediad Agos ar draws Cymru
Mae ymchwil yn elwa o gydweithrediadau agos â phrifysgolion ar draws Cymru, a gefnogir gan Rwydwaith Arloesi Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygu ymchwil wreiddiol ynghyd â syniadau newydd ar gyfer partneriaethau.
Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)
Sefydliad ymchwil rhyngddisgyblaethol yn y Gwyddorau Cymdeithasol yw WISERD. Mae Llywodraeth Cymru wedi'n dynodi'n ganolfan ymchwil genedlaethol ac rydym wedi derbyn dau grant gan Ganolfan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Ar hyn o bryd, rydym wedi derbyn cyllid trawsnewid canolfannau gwerth oddeutu £1.6 miliwn dros gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ym mis Medi 2024.
Rydym yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe, gan weithio gyda'n gilydd i wella ansawdd a maint ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a'r tu hwnt. Mae ein hymchwil yn rhychwantu meysydd economeg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg a gwyddoniaeth wleidyddol, ac mae'n creu effaith drwy ddylanwadu ar ddatblygu polisi ac ymarfer ar draws amrywiaeth o sectorau.
Cyd-gyfarwyddwyr: Yr Athro Nigel O'Leary a Dr Matthew Wall
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan WISERD.
Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC)
Lansiwyd Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau Cymru (CCDC) ym mis Awst 2023 ac mae'n cynnwys pob un o'r naw prifysgol yng Nghymru. Mae CCDC yn darparu cyfleoedd ledled Cymru i feithrin partneriaethau dyfnach a chryfach ac i hwyluso cyfnewid gwybodaeth i raddau mwy drwy ragoriaeth ymchwil ac arloesi yn y celfyddydau a'r Dyniaethau ym myd Addysg Uwch – o dadansoddi archifol a thestunol i economïau creadigol a meddylfryd dylunio.
Mae'r Gynghrair hefyd yn blatfform ar gyfer eiriolaeth ac actifiaeth yn seiliedig ar ein creadigrwydd a'n harbenigedd cyffredin mewn ymchwil ac effaith yn y celfyddydau a'r Dyniaethau yng Nghymru. Mae'n cynnig cyfle i'r celfyddydau a'r Dyniaethau yng Nghymru gyfrannu'n llawn at ddadleuon cenedlaethol a rhyngwladol ar y celfyddydau a'r Dyniaethau a'u gwerth ar gyfer pobl, cyflogadwyedd a'r economi mewn byd sy'n newid yn gyflym. Cynhelir digwyddiad ar y cyd rhwng CCDC/SAHA (Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau'r Alban) yn Aberystwyth ar 11 Hydref 2024.
Cyd-gadeirydd - Kirsti Bohata
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CCDC.