Mae'r Rhwydwaith Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd (CARN), dan arweiniad y Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, yn bodoli i hyrwyddo ymchwil i weithredu hinsawdd rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol. Ein nod yw cefnogi ymchwilwyr i archwilio dimensiynau dynol newid hinsawdd o safbwyntiau cymdeithasol, diwylliannol, artistig ac ymddygiadol.

Mae mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth yn gofyn am ymgysylltu ag effeithiau ac asiantaeth dynol a chymdeithasol, mewn deialog â gwyddoniaeth a thechnoleg. Gan weithio'n agos gyda'r Sefydliad Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd (CARI) sydd wedi'i leoli yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg,  mae CARN yn darparu pont rhwng ymchwil y celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol ac ymchwil hinsawdd mewn cyfadrannau eraill.

Ein gwaith

Mae CARN yn hwyluso cydweithio rhwng ymchwilwyr i ddatblygu dulliau newydd o fynd i'r afael ag argyfyngau cyd-gysylltiedig newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a llygredd. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar weithredu ar yr argyfwng hinsawdd. Mae clystyrau ymchwil CARN yn ddynamig ac yn adlewyrchu heriau cynyddol amlwg a synergeddau ymchwil ei aelodau. Ymysg y themâu trosfwaol mae:

Naratifau newid yn yr hinsawdd

dyn

Ymddygiadau, gwerthoedd a newid cymdeithasol

pobl

Gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dyfodol

planhigyn

Mae ein gweithgareddau'n cynnwys

  • Datblygu cynigion cyllido rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol
  • Cyd-greu ymchwil ac effaith gyda phartneriaid an-academaidd
  • Meithrin sgyrsiau rhyngddisgyblaethol drwy gyfrwng digwyddiadau misol i aelodau
  • Trefnu darlithoedd gwadd, seminarau ymchwil a symposia mewn cydweithrediad â CARI
  • Mentora ymchwilwyr mewn ymchwil ar weithredu hinsawdd
  • Cefnogi ymchwil ar weithredu hinsawdd ôl-raddedig
  • Datblygu rhwydweithiau a chydweithio rhyngwladol
  • Gweithio gyda grwpiau an-academaidd ar roi gweithredu cadarnhaol ar waith
  • Cefnogi datgarboneiddio ein hymchwil a newid sefydliadol

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Rydyn ni'n croesawu awgrymiadau am gydweithio newydd, themâu, siaradwyr neu geisiadau am gefnogaeth i ddatblygu cynigion cydweithredol perthnasol am gyllid.  I ymuno â'r rhwydwaith neu i wneud cais am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Gyfarwyddwr y Rhwydwaith Ymchwil ar Weithredu Hinsawdd, Yr Athro Kirsti Bohata:  k.bohata@swansea.ac.uk.

Pwy ydyn ni

Cyfarwyddwr: Yr Athro Kirsti Bohata

Am y Cyfarwyddwr: Mae Kirsti Bohata yn Athro Llenyddiaeth Saesneg sy'n arbenigo ym maes Llenyddiaeth Saesneg Cymru. Mae hi wedi cyhoeddi ar agweddau ôl-drefedigaethol, cwiar, anabledd a'r syniad o le at lenyddiaeth. Mae'r Athro Bohata'n arwain y Rhwydwaith Adrodd ar Newid Cefn Gwlad, ac mae ei hymchwil diweddar yn cynnwys defnyddio cyd-ddylunio gemau i ddatblygu a gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth (wedi'i gyllido gan AHRC) a phrosiect cydweithredol rhwng gwyddonwyr hinsawdd ac artistiaid o'r enw Climate Lab (wedi'i gyllido gan NERC a MASI).

Grŵp Llywio CARN