Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Abertawe, byddwch yn cael cyfle i gydweithio ag academyddion ar brosiectau i ymchwilio a deall materion yn fanylach mewn amrywiaeth eang o'r gwyddorau cymdeithasol, ieithoedd, y gyfraith, gwleidyddiaeth, rheoli a busnes ac addysg.

Mae ein hymchwil yn archwilio syniadau sy'n effeithio ar bob rhan o'r gymdeithas, o arweinyddiaeth cenhedloedd a sefydliadau, i addysgu i bob oedran, sut mae pobl yn dysgu ac yn defnyddio ieithoedd; rydym hefyd yn ymchwilio i'n gorffennol (hen a diweddar, gyda phwyslais ar Gymru); ein systemau gwleidyddol a chyfreithiol.