Mae lle rydym yn byw ac yn gweithio'n dylanwadu'n drwm ar ein bywydau. Yn ne-orllewin Cymru, mae ein tirwedd, ein hanes a'n diwylliant unigryw yn cynnig gobaith a chyfle i rai pobl, ond maen nhw’n rhwystr i eraill.

Dengys hanes fod amddifadedd ac anghydraddoldeb cymdeithasol yn parhau mewn rhai mannau, gan effeithio ar genedlaethau o deuluoedd a chymunedau cyfan. Fodd bynnag, mae'n fwy cynnil na hynny: Gall nodweddion un gymdogaeth fod yn rhywbeth cadarnhaol i un person ond nid i berson arall.

Er mwyn ceisio mynd i'r afael â hyn, mae polisi yng Nghymru a'r DU yn ddiweddar wedi symud i gydnabod bod lleoedd gwahanol yn aml yn gofyn am gymorth gwahanol. Pan fydd cymunedau'n dod ynghyd i ddatrys heriau lleol dyna pryd y gallwn wneud newid go iawn - ar ein cyfer ni ac eraill sy'n profi heriau a rennir ar draws y byd.

Rydym yn lansio Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol newydd er mwyn gwella dealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd y mae cymunedau'n eu profi ar draws y rhanbarth. Yn ystod y cam cyntaf hwn, ein hawydd yw gwrando ar eich barn am ein rhanbarth, a sut dylai'r swyddfa weithredu. Rydym am greu sylfaen er mwyn cydweithio, a thuag at gyd-greu cymunedau cydlynus yn ne-orllewin Cymru.

Rhagor o wybodaeth am ein gweithgaredd ar sail lleoliad diweddaraf