Mae Prifysgol Abertawe'n cynnal Hyb Cyfnewid Tystiolaeth (EvEx) Cymru
Gwella rhagoriaeth mewn llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy gydweithredu cenedlaethol, datblygiad proffesiynol ac ymgymryd ag ymchwil.
Cysylltu gweision cyhoeddus a sifil â chymuned o ymchwilwyr o safon fyd-eang i ysgogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y DU.
Mae Prifysgol Abertawe yn un o sylfaenwyr consortiwm Cyfnewid Tystiolaeth (EvEx) y DU, ac yn arwain y consortiwm yng Nghymru. Caiff y fenter fawr hon ei hariannu gan grant gwerth £3.75 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae'r consortiwm, a arweinir gan y Ganolfan Gwyddoniaeth a Pholisi ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn dod â phrifysgolion a sefydliadau polisi ar draws y DU ynghyd. Ei nod yw cryfhau'r berthynas rhwng ymchwil a'r sector cyhoeddus, a helpu gweision sifil a chyhoeddus ar draws y DU i ddefnyddio tystiolaeth yn well yn eu gwaith.
Un o nodau allweddol EvEx yw ehangu galluedd ar draws cenhedloedd a rhanbarthau'r DU.
Mae hyn yn golygu cefnogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yn unig yn genedlaethol ond mewn cyd-destunau lleol a datganoledig hefyd. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd EvEx yn cydweithio â phartneriaid prosiect i gomisiynu gweithgareddau sydd â ffocws rhanbarthol a datblygu cymuned o ymarfer hirdymor ledled y DU, gan helpu ymchwilwyr a gweision sifil/cyhoeddus i gysylltu, ble bynnag y maen nhw.
Mae Prifysgol Abertawe'n arwain Hyb Cyfnewid Tystiolaeth Cymru, gan ddarparu canolbwynt ar gyfer ymgysylltu rhanbarthol yng Nghymru. Bydd yr hyb yn cefnogi gweision sifil a chyhoeddus ar bob lefel o'r llywodraeth drwy wella mynediad at arbenigedd ymchwil a chynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Cymru.
Wyt ti y yn Ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn effaith polisi?
Llenwch y ffurflen i ddweud wrthym am eich profiad polisi a bydd tîm EvEx mewn cysylltiad â chi i ddweud mwy wrthych amdano.
Cyfarfod â Thîm y Prosiect
Yr Athro Louisa Huxtable-Thomas
Athro mewn Entrepreneuriaeth ac Arweinyddiaeth, Cydymaith EvEx
Yn wreiddiol, biolegydd amgylcheddol oedd Louisa, a chafodd yrfa gynnar amrywiol yn cwmpasu gwaith mewn bioamrywiaeth, ymgynghori amgylcheddol a llunio polisïau ar lefel llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â chymorth i fusnesau a deori busnesau. Daeth ymchwil ddoethurol Louisa â’r holl wybodaeth flaenorol hon ynghyd gan nodi'r ffyrdd y gall busnesau gymryd rhan mewn llunio polisi cyfranogol yn llwyddiannus. Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2009, symudodd diddordebau ymchwil Louisa yn gynyddol at fusnes a rheolaeth, yn hytrach na pholisi amgylcheddol, ond mae ei diddordebau bob tro'n cyd-fynd â phrosiectau a oedd â’r nod o gynorthwyo cymdeithas ac economi Cymru'n uniongyrchol.
Yr Athro Jonathan Bradbury
Deon Cysylltiol ar gyfer Ymchwil, Arloesi ac Effaith y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a Chyd-arweinydd y Prosiect Cyfnewid Tystiolaeth ym Mhrifysgol Abertawe.
Stephanie Green
Cydlynydd Datblygu Ymchwil Enrich Cymru, Cydymaith EvEx
Steff yw Cydlynydd Datblygu Ymchwil Enrich Cymru ar gyfer Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Yn y gorffennol, treuliodd bum mlynedd ym Mhrifysgol Bangor fel Cynorthwy-ydd Ymchwil, gan gynnwys gwaith gyda'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ar astudiaethau heneiddio a dementia, ac mae hefyd wedi cefnogi ymchwil iechyd meddwl ym Mhrifysgol Otago. Mae'n arbenigo mewn datblygu ymchwil ymhlith poblogaethau oedolion hŷn, ac mae wedi sefydlu rhwydwaith i hyrwyddo ymchwil mewn cartrefi gofal ar draws Cymru.
Mae Steff yn cwblhau PhD ym maes ymarfer rhwng cenedlaethau mewn gofal cymdeithasol yng nghyd-destun Cymru. Mae ganddi BSc mewn Seicoleg o Brifysgol Caerfaddon ac MSc mewn Sylfeini Seicoleg Glinigol o Brifysgol Bangor.
Jo Hutchings
Uwch-swyddog Prosiect
Mae Jo yn Uwch-swyddog Prosiect sy'n arwain agenda sy'n seiliedig ar leoedd Prifysgol Abertawe drwy'r Swyddfa Ymchwil i Heriau Lleol (LCRO). Mae Jo yn canolbwyntio ar brosiectau ymchwil, meithrin partneriaethau a gweithgareddau cenhadaeth ddinesig ar draws de a gorllewin Cymru. Ochr yn ochr ag Emily Adams, mae Jo yn gyswllt allweddol ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio mewn cymunedau, a chyda chymunedau, ar draws y rhanbarth, ac mae'n angerddol am roi lwyfan i leisiau yn y gymuned ac ehangu mynediad drwy brosiectau ymchwil.
Mae Jo yn gweithio ar nifer o brosiectau cydweithredol gan gynnwys partneriaeth ar draws y trydydd sector yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, a phrosiect sy'n cefnogi busnesau bach a chanolig i ymgysylltu â'r cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau ôl-osod.