Pwy ydyn ni

Mae heriau byd-eang i drefn ryddfrydol yn gofyn am atebion trawsddisgyblaethol, gan dynnu ar arbenigedd o bob rhan o'r dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol, y gyfraith a gwleidyddiaeth, technoleg, a thu hwnt.

Mae'r Sefydliad Ymchwil Heriau Geo-wleidyddol yn dwyn ynghyd ymchwilwyr i archwilio heriau byd-eang sy'n deillio o wrthdaro, gan gydweithio i ffurfio cynigion ymchwil prosiectau.

Ein nod yw uno ymchwilwyr sy'n chwilio am atebion i faterion rhyngwladol, gan archwilio gweithgareddau o dan lefel y gwrthdaro arfog a rhyfel, a gweithgareddau anghyfreithlon sy'n croesi'r trothwy i ryfeloedd o bob math. Ymchwil gydweithredol fydd yn ein galluogi orau i ddadansoddi'r materion cymhleth hyn a darparu ymatebion ystyriol ac aml-ddimensiwn.

Ein gwaith

Mae ein Sefydliad yn hwyluso trafodaethau rhwng academyddion ac yn cefnogi cynigion ymchwil mentrau trwy ddigwyddiadau a chyflwyniadau. Mae diddordebau aelodau yn ddeinamig a byddent yn datblygu. Yn gyffredinol, mae ein prif themâu ymchwil yn ymwneud ag archwilio a dadansoddi'r elfen 'ddynol' o heriau geo-wleidyddol, a'u heffaith gymdeithasol. Y meysydd o ddiddordeb allweddol yw:

Heriau byd-eang i'r drefn ryddfrydol

Pobl yn protestio

Rhyfela hybrid

person

Mae ein gweithgareddau yn cynnwys

  • Datblygu cynigion ariannu rhyngddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol
  • Creu ymchwil i sicrhau effaith gyda phartneriaid anacademaidd
  • Meithrin sgyrsiau rhyngddisgyblaethol trwy ddigwyddiadau aml i aelodau
  • Trefnu darlithwyr gwadd, seminarau ymchwil a symposia
  • Mentora ymchwilwyr sy’n ymchwil heriau geo-wleidyddol
  • Cefnogi ymchwil ôl-raddedig
  • Datblygu rhwydweithiau a chydweithrediadau rhyngwladol

Sut y gallwch chi gymryd rhan

Rydym yn croesawu diddordeb gan academyddion ar bob cam o'u gyrfa yn gweithio ar draws Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol a thu hwnt. Mae croeso i chi gysylltu â'n Cyfarwyddwr Sefydliad, Dr Kris Stoddart k.d.stoddart@swansea.ac.uk gyda: syniadau am gydweithrediadau newydd; ffyrdd y gallwn ryngweithio gydag ymchwilwyr eraill' ceisiadau am gymorth gyda chynigion ymchwil, yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar ysgrifennu. Gall Kris ddarparu cymorth a gwybodaeth.

Am y Cyfarwyddwr: Mae'r Dr Kristan (Kris) Stoddart yn Athro Cysylltiol mewn Bygythiadau Seiber, yn gweithio ar draws disgyblaethau. Mae'n aelod staff Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ond cychwynnodd yn Ysgol y Gyfraith Hillary Clinton cyn ymuno â'r Adran Droseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol. Mae Dr Stoddart yn dal i weithio gyda'r adrannau/ysgolion hyn ac ar draws Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol  yn ogystal ag ar draws cyfadrannau. Yn ogystal â bod yn Gyfarwyddwr Sefydliad, mae hefyd yn aelod o CYTREC ac mae'n arbenigwr mewn arfau niwclear a diogelwch seiber, ysbïo, rhyfela hybrid a diogelwch rhyngwladol yn ehangach.

Digwyddiad i ddod

Trafodaeth Bwrdd Crwn Llywio Dyfodol Wcráin: Heriau, Cyfleoedd a Dynameg Geo-wleidyddol

Mae Sefydliad Heriau Ymchwil Geo-wleidyddol Prifysgol Abertawe (GCRI) ochr yn ochr â'r Grŵp Ymchwil Diogelwch, Hawliau a Datblygiad Byd-eang (GSRD) yn falch o gynnal trafodaeth bwrdd crwn a fydd yn archwilio ac yn trafod y rhyfel parhaus rhwng Rwsia ac Wcráin Bydd y panel yn archwilio themâu amrywiol ac yn hwyluso cyfnewid safbwyntiau a fydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau geo-wleidyddol y gwrthdaro, materion dyngarol, strategaethau ar gyfer dod â'r rhyfel gyda Rwsia i ben, ac yn gwerthuso'r rhagolygon ar gyfer heddwch a sefydlogrwydd yn y rhanbarth. 

Cofrestrwch nawr