Peirianneg Awyrofod, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Aerospace equipment

Trosolwg o'r Cwrs

Lansiwch eich gyrfa yn y diwydiant awyrofod dynamig gyda'n gradd BEng Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe'n rhoi i chi hyfforddiant arbenigol mewn damcaniaeth a gweithrediad cerbydau awyrenegol ac astronotegol, o awyrennau wedi'u pweru gan injan jet i leidwyr a hofrenyddion wedi’u gyrru gan bropelor.  

Bydd ein rhaglen yn rhoi i chi sylfaen gadarn mewn mathemateg, mecaneg, deunyddiau, thermohylifau, peirianneg ddigidol ac ymarfer proffesiynol, a gefnogir ymhellach gan ddysgu damcaniaethol ac yn y labordy.

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn dylunio, dadansoddi neu hedfan, bydd ein rhaglen yn rhoi i chi'r cymhwysedd technegol, yr ymwybyddiaeth feirniadol a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyfrannu at ddyfodol y sector awyrofod a llwyddo ynddo.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BEng.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MEng 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd. Mae ein rhaglen MEng yn arwain at gymhwyster lefel meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Pam Peirianneg Awyrofod yn Abertawe?

Mae Peirianneg Awyrofod yn Abertawe'n adran o fri rhyngwladol ag enw da hirsefydlog am ragoriaeth addysgu, cyfleusterau o'r radd flaenaf ac ymchwil arloesol.

  • 10fed yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Y Complete University Guide 2026)
  • 10fed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)
  • Yn safle 131 yn y Byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrenegol a Gweithgynhyrchu) (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Yn aelod o Gonsortiwm Ymchwil Awyrofod (ARC) a grŵp UK Vertical Lift Prifysgolion y DU

Eich Profiad Peirianneg Awyrofod

Mae Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig amgylchedd dysgu ymdrochol a gaiff ei lunio a'i sbarduno gan ein hymchwil awyrofod o safon fyd-eang a'i chyfoethogi ymhellach gan ein cyfleusterau awyrofod o'r radd flaenaf. 

Byddwch yn ennill dealltwriaeth byd go iawn o atmosffer ein planed ac amgylchedd y gofod y tu hwnt iddi, yn ogystal â chael mynediad at y technolegau sydd eu hangen i'w harchwilio, gan gynnwys:

  • Efelychydd Hedfan Peirianneg MPX521 Merlin
  • Peiriant JetCat p120
  • Twnelau Gwynt
  • Cyfleusterau labordy uwch ar gyfer strwythurau, hylifau a dynameg

Drwy gydol eich profiad Peirianneg Awyrofod, byddwch yn ymgymryd â gweithgareddau ymarferol a chyfrifiadol a fydd yn atgyfnerthu dysgu damcaniaethol, gan gynnwys profiad o ddefnyddio offer efelychu o safon ddiwydiannol ac arbrofion sy'n agos iawn at realiti. 

Byddwch yn elwa o gwricwlwm a sbardunir gan ymchwil sy'n cyfuno egwyddorion gwyddonol sylfaenol peirianneg awyrofod â'u cymwysiadau ymarferol ar draws meysydd awyrenegol ac astronotegol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth drylwyr o'r daith peirianneg lawn, gan ddechrau gyda'r cysyniadau cychwynnol ar y llawr i ymdrin â cherbydau a'u gweithredu yn yr awyr ac asesu eu perfformiad.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r rhaglen hon hefyd yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan gyfoethogi’ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Awyrofod

Gall graddedigion ein rhaglen Peirianneg Awyrofod ddisgwyl gadael gyda'r arbenigedd technegol uwch, y gallu technegol a'r ymddygiadau proffesiynol sydd eu hangen i ffynnu yn y diwydiant awyrofod.

Wedi graddio, byddwch chi mewn sefyllfa dda i ystyried amrediad eang o gyrchfannau gyrfa, a allai gynnwys:

  • Peiriannydd dylunio awyrennau
  • Gwyddonydd rocedi
  • Peiriannydd amddiffyn
  • Peilot cwmni awyrennau
  • Peiriannydd rheilffyrdd cyflymder uchel
  • Peiriannydd profion hedfan
  • Aerodynameg ym maes chwaraeon moduro neu'r Sector Ynni Cynaliadwy

Gall cyrchfannau gyrfa gynnwys sefydliadau megis:

  • Rolls-Royce, Airbus, BAE Systems, GE Aviation, y Llu Awyr Brenhinol a Jaguar Land Rover

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Peirianneg Awyrofod, BEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod, MEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Awyrofod gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)