Peirianneg Fecanyddol, MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
MEng Peirianneg Fecanyddol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr mecanyddol yn trawsnewid syniadau arloesol yn ddyfeisiadau sy'n torri tir newydd. Mae'r ddisgyblaeth yn helpu i ddyfeisio, dylunio a chynhyrchu llawer o'r peiriannau a ddefnyddiwn yn feunyddiol.

Mae ein cwrs gradd Peirianneg Fecanyddol yn eich paratoi ar gyfer gyrfa sy'n llawn boddhad mewn amrywiaeth o sectorau peirianneg. Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Wrth i chi fynd yn eich blaen drwy'r cwrs, bydd y galluoedd dadansoddol y byddwch yn eu datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol o ddefnyddio cyfarpar soffistigedig, gan feithrin sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant ehangach.

Pam Peirianneg Fecanyddol yn Abertawe?

  • 14eg yn y DU (The Guardian University Guide 2026) 
  • 20fed Yn U Du Peirianneg Fecanyddol (Daily Mail University Guide 2026)
  • 131yn y byd (Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu) (QS World University Rankings 2025)
  • 19fed yn y DU am bositifrwydd cyffredinol (NSS 2025)*
  • Mae 96% o raddedigion Peirianneg Fecanyddol yn mewn gwaith ac/neu astudio, neu'n gwneud gweithgareddau eraill fel teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2025)

Rydym hefyd yn cynnig cyfle i chi ASTUDIO DRAMOR (UCAS H309) mewn prifysgol bartner sy'n cyfoethogi'r radd, gan roi profiad diwylliannol ac ieithyddol gwerthfawr a all ehangu'ch gorwelion wrth drio am swydd.

* Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol wrth ateb cwestiwn 1 - 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 , o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Peirianneg Fecanyddol

Byddwch yn gweithio'n agos â'n cyfleusterau o'r radd flaenaf drwy gydol eich amser yn Abertawe. 

Ymhlith y rhain mae labordy mecaneg dynameg, labordy hylifau a'n hystafell profi injan JetCat P120. Mae gennym hefyd unedau sydd ar flaen y gad ym maes gweithgynhyrchu digidol a roboteg.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Fecanyddol

Mae graddedigion Peirianneg Fecanyddol yn cael eu rhoi ar ben y ffordd i gael amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ysgogol. Gallai eich dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol. 

  • Peiriannydd Modurol
  • Peiriannydd Mwyngloddio
  • Peiriannydd Dylunio
  • Technegydd Gweithdy
  • Peiriannydd Dibynadwyedd
  • Peiriannydd Mecatroneg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Peirianneg Fecanyddol, MEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Fecanyddol gyda Blwyddyn Mewn Diwydiant, MEng (Anrh)