Trosolwg o'r Cwrs
Mae peirianwyr sifil yn hanfodol i ddyluniad ein hamgylchedd adeiledig. O bontydd, twneli a systemau trafnidiaeth, i adeiladau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a rheoli dŵr, mae eu perfformiad yn hanfodol i gymdeithas fodern.
Mae'r radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth gynllunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil.
Gall y rhaglen Flwyddyn Sylfaen Peirianneg integredig arwain at unrhyw radd peirianneg lawn. Nid yw'n gymhwyster ynddo'i hun, ond blwyddyn gyntaf gradd BEng pedair blynedd.
Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau cymhleth, yn gallu gallu braslunio a modelu atebion peirianneg a dod yn gwbl gyfforddus wrth baratoi adroddiadau technegol.
Wrth i chi symud ymlaen, bydd eich galluoedd dadansoddol datblygol yn cyfuno â phrofiad ymarferol o'r offer diweddaraf, gan sefydlu sgiliau sy'n hanfodol i sicrhau cyflogaeth yn y diwydiant peirianneg sifil ehangach.