Bioleg, BSc (Anrh)

Fox

Trosolwg o'r Cwrs

Mae dealltwriaeth academaidd ddofn o fywyd ar y Ddaear yn bwysicach heddiw nag erioed o'r blaen. Mae astudio organebau byw yn eu holl amrywiaeth anhygoel yn hynod ddiddorol ac yn ein helpu i nodi bygythiadau critigol a chyfleoedd pwysig, o'r raddfa leiaf i'r fwyaf. Mae'r radd bioleg hon yn rhoi'r hyblygrwydd i ti archwilio bywyd naturiol lle bynnag y mae dy ddiddordebau.

Bydd y cyrsiau maes sydd ar gael yn lleol, trefol, ac yn rhyngwladol yn dy alluogi i weithio mewn amrywiaeth o gynefinoedd. Gelli astudio ecosystemau morol arfordirol trawiadol, amgylcheddau dŵr croyw a chynefinoedd Penrhyn Gŵyr sydd ar garreg y drws. Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf mewn meysydd ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd gan gynnwys ein cyfleusterau labordy newydd, y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy, amgueddfa sŵolegol, cwch ymchwil 18 metr pwrpasol a chanolfan ddelweddu unigryw sy'n dangos gwybodaeth amlddimensiynol o ddata dilyn trywydd anifeiliaid. Yn dy flwyddyn olaf, fe fyddi di’n gwneud prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar y maes, ar y labordy neu’n hollol ddadansoddol.

Pam Bioleg yn Abertawe?

  • 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • 14eg yn y DU am Ymchwil - wedi'i asesu o dan 'Gwyddorau Biolegol' (The Times and Sunday Times Good University Guide 2025)

Mae gan fioleg ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn ac mae'n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd ac mae'n seiliedig ar ein campws trawiadol ym Mharc Singleton sy'n edrych dros Fae Abertawe.

Bydd yr hyn y byddwch yn ei ddysgu'n cael ei lywio gan academyddion byd-enwog ysbrydoledig gan gynnwys yr Athro Rory Wilson – Prif Ymgynghorydd Gwyddonol ar gyfer rhaglen Great Migrations ar sianel National Geographic, a Dr Richard Unsworth – cynghorydd ar gyfres glodwiw'r BBC, Blue Planet II.

Eich Profiad Bioleg

  • Mae strwythur hyblyg y radd yn cynnig cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai’n lleol, yn rhywle arall yn y DU neu dramor.
  • Mae cyrsiau maes  lleol a theithiau maes yn y DU a thramor yn rhoi cyfle i chi weithio mewn cynefinoedd amrywiol gan archwilio’r ardaloedd naturiol anhygoel ar ein stepen drws a bywyd naturiol mewn gwledydd pell megis India, Borneo a'r Môr Coch.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried y radd BSc Bioleg gyda Blwyddyn Sylfaen. Y Flwyddyn Sylfaen yw'r ffordd berffaith o feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddechrau'r rhaglen BSc Bioleg; byddwch yn cael cyflwyniad i themâu astudio allweddol, yn ogystal â digon o gyfleoedd i ddysgu sgiliau astudio newydd a fydd o gymorth i chi drwy gydol eich gradd. Mae'r Flwyddyn Sylfaen hefyd yn hyblyg, ac yn caniatáu ichi ymuno ag unrhyw un o'n rhaglenni Biowyddorau ar ôl cwblhau, pe bai'ch uchelgeisiau'n newid yn ystod y flwyddyn.

Cyfleoedd Cyflogaeth Bioleg

Mae ein graddedigion wedi dod yn Ecolegwyr, Swyddogion Prosiect, Swyddogion Hydrometreg a Thelemetreg, Taxonomyddion Benthig, Swyddogion Bywyd Gwyllt ac Addysg, Ceidwaid Anifeiliaid a Thechnegwyr Cnydau.

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau rhyngwladol a cenedlaethol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamal Prydain a Chanolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru a fydd yn ychwanegu gwerth at eich astudiaethau.

Darganfyddwch pam mae ein myfyrwyr wrth eu boddau'n astudio Biowyddorau yn Abertawe

Gwyliwch dreialon môr ein llong arolwg dosbarth catamaran newydd, y R.V. Mary Anning

Darganfyddwch sut rydym yn helpu i adfer cynefinoedd glaswellt y môr

"Mae'r darlithwyr yma mor gyfeillgar a brwdfrydig yn eu haddysgu ac mae'r modiwlau eu hunain wedi'u strwythuro'n dda ac yn gyffrous."

Emmanuel Lourdes, BSc Swoleg, Cynorthwy-ydd Ymchwil, Canolfan Ymchwil ac Addysg Clefyd Heintus Trofannol (TIDREC), Prifysgol Malaya, Malaysia.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Bioleg, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol, BSc (Anrh)

Bioleg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)