Trosolwg o'r Cwrs
O ganlyniad i faterion parhaus a hollbwysig sy'n ymwneud â’n cefnforoedd, nid yw dealltwriaeth academaidd o fywyd y cefnfor erioed wedi bod mor bwysig.
Bydd ein gradd Bioleg y Môr yn sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i wneud cyfraniadau ystyrlon at ddatrys heriau amgylcheddol a chymdeithasol cyfredol. Mae ehangder a dyfnder y cwricwlwm yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o ecosystemau morol a'r egwyddorion biolegol sy'n llywodraethu bywyd yn ein cefnforoedd.
Mae'r rhaglen yn eich annog i ystyried effaith gweithgarwch dynol ar amgylcheddau morol, ac i archwilio ymagweddau cynaliadwy ar gyfer cadwraeth.
Pan fyddwch chi'n graddio, byddwch chi'n barod i fod yn eiriolwr dros y cefnforoedd, gan gyfrannu atebion ar gyfer newid yn yr hinsawdd, llygredd, colli cynefinoedd a dirywiad bioamrywiaeth.
Byddwch hefyd yn meithrin hyfedredd mewn technegau labordy a thechnegau gwaith maes, dadansoddi data, a chyfathrebu gwyddonol, gan eich paratoi i fynd i'r afael â materion byd-eang megis colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac argyfyngau amgylcheddol eraill.
Mae ein gradd yn defnyddio ymagweddau moesegol, cynaliadwy ac arloesol i'ch paratoi'n llawn ar gyfer ystod o yrfaoedd ystyrlon mewn meysydd sy'n cynnwys gwyddor môr, cadwraeth a rheoli amgylcheddol.
Pam Bioleg y Môr yn Abertawe?
Mae gan Fioleg y Môr ym Mhrifysgol Abertawe enw da iawn, ac mae’n denu myfyrwyr o bob cwr o'r byd. Byddwch chi'n astudio ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir hardd sy'n edrych dros Fae Abertawe, lle bydd eich dysgu'n cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth sy'n enwog yn fyd-eang.
Byddwch chi'n astudio ar raglen Bioleg y Môr flaenllaw, sydd ar hyn o bryd:
- Yn y 6ed safle yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025) - wedi'i asesu dan 'Ecoleg a Bioleg Amgylcheddol'*
- Yn yr 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
- Yn y 14eg safle yn y DU am Ymchwil - wedi'i hasesu dan 'Y Gwyddorau Biolegol' (The Times and Sunday Times Good University Guide 2026)
* Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.
Eich Profiad Bioleg y Môr
Mae gwaith ar gychod, ar Long Ymchwil Mary Anning, gwaith maes ar lannau lleol a gweithio yn ein labordai arloesol i gyd yn rhannau craidd o'r radd. Gan fod Bioleg y Môr mor eang, gallwch deilwra eich gradd i ganolbwyntio ar waith maes neu waith yn y labordy, yn ddibynnol ar eich diddordebau.
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn bioleg, gan gynnwys amrywiaeth bywyd, bioleg gellol a microbaidd, ymddygiad anifeiliaid, ecoleg, esblygiad, geneteg a phwysigrwydd y cefnforoedd i fywyd ar y ddaear. Byddwch hefyd yn dysgu'r sgiliau craidd o ysgrifennu gwyddonol, a chyflwyno a dadansoddi data.
Byddwch yn dechrau arbenigo'n gyfan gwbl mewn bioleg y môr yn eich ail flwyddyn, gydag amrywiaeth o fodiwlau penodol a chwrs maes preswyl. Mae'r ail flwyddyn yn cynnwys gwaith maes sylweddol ar lannau lleol, ac ar ein llong ymchwil, yr RV Mary Anning, gan roi profiad ymarferol o'r byd go iawn i chi a sicrhau eich bod chi'n datblygu sgiliau pwysig.
Mae'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i datblygu sgiliau uwch yn barod ar gyfer eich gyrfa, gan gynnwys tirfesur, rheoli prosiectau a chyflwyno data. Gallwch hefyd ddewis i ymgymryd â chwrs maes rhyngwladol yn addysgu ecoleg drofannol a sgiliau tirfesur yn y dŵr. Yn y gorffennol, mae lleoliadau'r cwrs maes rhyngwladol wedi cynnwys India, Borneo a Puerto Rico. Ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch chi'n cwblhau prosiect ymchwil copa.
Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfleoedd i gwblhau Blwyddyn Dramor, gan gynnig profiad bywyd amhrisiadwy.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.
Mae'r Flwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau ymchwil uwch. Byddwch chi'n cael eich rhoi yn ein grwpiau ymchwil, ar raglen gyfnewid gyda'n partneriaid yng Nghaerwysg neu yn Aberystwyth, neu gellir cysylltu'r flwyddyn â diwydiant, neu gyfuniad o'r opsiynau hyn.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n berffaith os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach, neu os ydych chi'n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.
Cyfleoedd Cyflogaeth Bioleg y Môr
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlyptiroedd Cenedlaethol Cymru, a fydd yn ychwanegu gwerth at eich astudiaethau.
Mae ein cwricwlwm wedi'i deilwra'n benodol i wella eich cyflogadwyedd graddedig a'ch helpu i greu argraff dda ar gyflogwyr. Mae sgiliau dilys, technegol a throsglwyddadwy sy'n canolbwyntio ar y cyflogwr, yn cael eu cydblethu ym mhob modiwl.
Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, bydd gennych chi'r cyfle i fynychu cynhadledd yrfaoedd, lle gwahoddir cyflogwyr i roi sgyrsiau a chynnal gweithdai, i wella eich gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth, gan eich galluogi i weithio tuag at nod gyrfa penodol. Yn eich blwyddyn olaf, bydd gennych chi'r cyfle i ymgymryd â modiwlau sgiliau proffesiynol sy'n eich galluogi i gael profiad o ddysgu sy'n efelychu gwaith, gan wella eich sgiliau yn barod ar gyfer y gweithle.
Bydd gennych chi hefyd y cyfle i ennill profiad gwaith gyda'n grwpiau ymchwil ar draws yr adran, sy'n cynnig lleoliadau gwaith byr, ac yn aml caiff traethodau hir eu halinio â chyflogwyr lle bo'n bosib. Mae partneriaid diwydiannol hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi rheolaidd. Mae cyflogadwyedd yn cael ei gydblethu yn y System Tiwtora Personol, a byddwch chi'n cael eich annog i greu cynllun datblygiad personol a thrafod eich dyheadau gyda'ch tiwtor personol.
Mae ein graddau wedi'u hachredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol. Mae rhai o'n staff yn aelodau o’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Ecolegol, ac yn defnyddio'r rhwydwaith hwn i ddatblygu'r cwricwlwm a gwella sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i sicrhau nifer o rolau proffesiynol, gan gynnwys gweithio fel:
- Ecolegwyr neu Ymgynghorwyr Morol, Cadwraethwyr Morol, Rheolwyr Gweithrediadau Plymio, Rheolwyr Prosiectau Adfer Riffiau, Technegwyr, Ymchwilwyr, Cynorthwywyr Technoleg, Rheolwyr Pysgodfeydd, Dadansoddwyr Data, Peirianwyr Amgylcheddol, Arbenigwyr Ymateb i Arllwysiadau Olew, Biotechnolegwyr, Dadansoddwyr Dŵr, Arbenigwyr Polisi, Athrawon neu Ddarlithwyr, Swyddogion Hydrometreg a Thelemetreg, Swyddogion Bywyd Gwyllt ac Addysg, neu geidwaid anifeiliaid.