Ecoleg a Chadwraeth, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Biosciences student on fieldtrip

Trosolwg o'r Cwrs

Mewn ymateb i'r angen byd-eang am weithwyr proffesiynol sydd â'r sgiliau i fynd i'r afael ag argyfyngau colled bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a'r heriau cysylltiedig o ran dŵr, bwyd ac iechyd, rydym wedi datblygu'r BSc (Anrh.) Ecoleg a Chadwraeth.

Byddwch yn meithrin yr wybodaeth wyddonol, y sgiliau ymarferol a'r ymwybyddiaeth foesegol i wneud cyfraniadau ystyrlon tuag at ddatrys heriau amgylcheddol a chymdeithasol y byd, gan ymchwilio i systemau ecolegol ac arwain a chynllunio ymdrechion cadwraeth i hyrwyddo cynaliadwyedd ecolegol. Byddwch hefyd yn cael profiad ymarferol drwy gyrsiau maes, lleoliadau gwaith a phrosiectau ymchwil.

Mae ein gradd yn defnyddio ymagweddau moesegol, cynaliadwy ac arloesol i greu graddedigion sy'n gymwys yn broffesiynol ond sydd hefyd yn gallu meddwl yn feirniadol a datrys problemau'n greadigol.

Ar ôl cwblhau eich astudiaethau, bydd gennych yr hyder i fentro i fyd gwaith ac achub ar gyfleoedd gyrfa ym meysydd cadwraeth, sefydliadau anllywodraethol, busnes, gwaith ymgynghori y sector amgylcheddol, asiantaethau llywodraethol a'r byd academaidd.

Pam Ecoleg a Chadwraeth yn Abertawe?

Gan astudio ar ein Campws Parc Singleton, wedi'i amgylchynu gan barcdir hardd â golygfeydd dros Fae Abertawe, byddwch yn ymuno ag adran perfformiad uchel sydd ar hyn o bryd:

  • Yn y 6ed safle yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025) - wedi'i hasesu dan 'Ecoleg a Bioleg Amgylcheddol'*
  • Yn yr 11eg safle yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 14eg safle yn y DU am Ymchwil - wedi'i hasesu dan 'Y Gwyddorau Biolegol' (The Times and Sunday Times Good University Guide 2026)

* Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Ecoleg a Chadwraeth

Mae Ecoleg a Chadwraeth yn wyddor fyd-eang, ac rydym yn meithrin amgylchedd dysgu cynhwysol sy'n gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol. Mae moeseg, cynaliadwyedd a'r argyfwng hinsawdd yn elfennau annatod o'r cwricwlwm, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth ehangach o'r materion cyfreithiol, moesegol, iechyd ac amgylcheddol sy’n ymwneud ag Ecoleg a Chadwraeth ar raddfa fyd-eang.

Mae gwaith maes yn rhan hanfodol o'r cwrs, gan roi cyfle i chi roi eich dysgu ar waith mewn lleoliadau byd go iawn. Mae'r rhain yn cynnwys cwrs maes mewn Ecoleg Planhigion yn eich blwyddyn gyntaf a theithiau maes rhyngwladol i Forneo (Malaysia) a'r Môr Coch (yr Aifft) yn y drydedd flwyddyn, pan fyddwch yn profi ac yn astudio materion amgylcheddol yn y maes. Mae gwaith labordy hefyd yn elfen hollbwysig, a gallwch ddatblygu eich sgiliau yn ein labordai arloesol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae ein cwricwlwm wedi'i gynllunio i wella cyflogadwyedd graddedigion a'ch helpu i greu argraff dda ar gyflogwyr, gan fod sgiliau technegol a throsglwyddadwy, sy'n canolbwyntio ar anghenion cyflogwyr, yn rhan o bob modiwl. 

Bydd cyfleoedd i gael profiad gwaith gyda'n grwpiau ymchwil drwy leoliadau gwaith byr, ac yn aml caiff traethodau hir eu halinio â gofynion cyflogwyr lle bynnag y bo modd. Mae partneriaid diwydiannol hefyd yn darparu cyrsiau hyfforddi, a byddwch yn llunio cynllun datblygu personol ac yn trafod eich nodau gyrfa â'ch Tiwtor Personol.

Bydd cyfle gennych hefyd i gymryd rhan mewn cynhadledd gyrfaoedd i wella eich cyfleoedd cyflogaeth, yn ogystal â datblygu sgiliau proffesiynol a dysgu sy'n efelychu gwaith i ddatblygu eich sgiliau'n barod am y gweithle.

Mae rhai o'n staff yn aelodau o’r Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Ecolegol, ac yn defnyddio'r rhwydwaith hwn i ddatblygu'r cwricwlwm a gwella sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth myfyrwyr. Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru, a fydd yn ychwanegu gwerth at eich astudiaethau.

Mae ein graddedigion wedi'u hyfforddi i fod yn eiriolwyr dros y blaned, gan gyfrannu at gadwraeth fyd-eang a lleol yn ogystal ag atebion i newid hinsawdd, llygredd, colled cynefinoedd a dirywiad bioamrywiaeth, ac mae eu rolau'n cynnwys:

  • Microbiolegydd
  • Swyddog Cadwraeth Natur
  • Gwyddonydd Pridd (Amaethyddiaeth/Garddwriaeth)
  • Ymgynghorydd Cynaliadwyedd/Ecolegydd
  • Ecodwristiaeth
  • Technegydd Labordy
  • Y byd academaidd
  • Sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd, Sefydliad Iechyd y Byd ac UNESCO