Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
- Ysgrifennu academaidd
- Mathemateg ac ystadegau
- Meddwl critigol
- Rheoli amser
- Sgiliau digidol
- Sgiliau cyflwyno
- Cymryd nodiadau
- Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
- Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae gan ein darlithwyr bolisi 'drws agored' a gallwch siarad â nhw am unrhyw bryderon a allai fod gennych. Nid oes angen iddynt fod yn ymwneud â'r cwrs; mae ein staff academaidd wrth law i'w helpu gydag unrhyw beth yn ystod eich amser yn Abertawe.
Mae gan bob cwrs gynrychiolydd myfyrwyr sy'n sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed. Rôl y cynrychiolydd yw gwrando ar eich barn a rhoi adborth, mynychu cyfarfodydd rheolaidd a sicrhau bod y bobl sy'n gallu gwneud newidiadau yn gwrando ar y bobl bwysig - chi!
Rydym yn cynnig gwasanaeth mentora academaidd a mentora cymheiriaid. Pennir Mentor Academaidd ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn ein cyrsiau israddedig. Yn ogystal â rhoi arweiniad academaidd, bydd y Mentor hwnnw'n rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i help gyda materion personol. Mae gennym hefyd gynllun mentora cymheiriaid sy'n helpu myfyrwyr newydd i ymgyfarwyddo â bywyd yn y brifysgol yma yn Abertawe. Cewch gyfle i siarad â'ch mentor a all ddweud wrthych am ei brofiadau fel myfyriwr a siarad â chi am fywyd myfyriwr. Mae'r cynllun mentora cymheiriaid yn ffordd wych o gyfarfod â myfyrwyr ac ehangu eich cylch ffrindiau yn ystod eich amser yn Abertawe.
Gallwch hefyd gael help gyda materion personol drwy ein hamrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr fel BywydCampws, Gwasanaethau Cymorth Cynhwysol i Fyfyrwyr a'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd.