Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Archwiliwch y syniadau sy'n llywio ein byd gyda BA mewn Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth. Mae'r radd ddeinamig hon yn cyfuno astudio'r Unol Daleithiau, ei diwylliant, ei hanes, ei llenyddiaeth a'i gwleidyddiaeth - â gwleidyddiaeth Prydain ac Ewrop, polisi cyhoeddus, damcaniaeth wleidyddol, ac athroniaeth. Byddwch yn astudio heriau byd-eang dybryd fel cyfiawnder ar sail hil, democratiaeth, globaleiddio, gwrthdaro, a chynaliadwyedd, gan feithrin y gallu i ddeall a dylanwadu ar y byd o'ch cwmpas.

O'r Chwyldro Americanaidd i ddiwylliant pop cyfoes yr Unol Daleithiau, ac o syniadaeth wleidyddol glasurol i ddadleuon modern am ryfel, heddwch a diogelwch, bydd gennych yr hyblygrwydd i deilwra eich gradd i'ch diddordebau chi. Mae gennych hefyd gyfle i astudio am flwyddyn neu semester yn yr Unol Daleithiau, lle byddwch yn darganfod y pwnc yn uniongyrchol.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i ddatgloi sbectrwm eang o gyfleoedd gyrfa drwy eich galluogi i feithrin sgiliau trosglwyddadwy fel meddwl yn feirniadol, cyfathrebu perswadiol, datrys problemau, a chreadigrwydd, oll yn sgiliau y mae cyflogwyr ar draws diwydiannau yn chwilio amdanynt.

Pam Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn Abertawe?

Addysgir ein gradd Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth ar Gampws Parc Singleton, sy'n gampws hardd mewn parcdir â golygfeydd dros Fae Abertawe, ac ar ymyl Penrhyn Gŵyr. Mae'n radd uchel ei pharch ymysg cyflogwyr. Mae'n cynnwys yr opsiwn i astudio yn yr Unol Daleithiau am semester neu flwyddyn, gan wella eich profiad fel myfyriwr a'ch rhagolygon gyrfa ymhellach.

Mae Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe:

  • Yn y 3ydd safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 100% am Foddhad Cyffredinol (NSS 2025)*

*Astudiaethau Americanaidd ac Awstralasiaidd, C28, NSS 2025

Mae Gwleidyddiaeth yn Abertawe yn:

  • Y 15fed safle yn y Deyrnas Unedig o ran Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • Yn 7fed safle yn y DU am Lais y Myfyriwr (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025)* - a aseswyd o dan Gwleidyddiaeth*

*Yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Rydym yn cynnig cynnwys cwrs amrywiol a hyblyg, felly gallwch lunio'ch gradd mewn Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth i fodloni'ch diddordebau chi.

Mae pynciau'r radd yn cynnwys ffilm Americanaidd, cerddoriaeth, hil, rhywedd, mudo a threfoli, hanes cymdeithasol, economaidd a milwrol, terfysgaeth, neu hawliau sifil a phrotest wleidyddol; gwrthdaro a heddwch, democratiaeth, gwleidyddiaeth, athroniaeth, cysylltiadau rhyngwladol, diogelwch rhyngwladol, polisi cyhoeddus neu'r economi wleidyddol.

Mae ein haddysgu yn cael ei lywio gan ein hymchwil ryngddisgyblaethol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn ystod eang o feysydd pwnc, o hawliau sifil, polisi tramor yr Unol Daleithiau, a'r Rhyfel Oer i Ryfel Cartref America, ffuglen gyfoes yr Unol Daleithiau, a Dadeni Harlem.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i ymgymryd â semester neu flwyddyn dramor, mewn lleoliadau megis Unol Daleithiau America a Chanada, gan wella eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae gan bob un o'n myfyrwyr opsiwn i astudio dramor. Mae ein rhaglenni 4 blynedd yn cynnig blwyddyn lawn dramor ac rydym hefyd yn cynnig semester dramor ar gyfer graddau 3 blynedd yn un o'n prifysgolion partner yn yr Unol Daleithiau.  Mae'r semester dramor yn rhan o raglen gyfnewid, felly byddwch yn talu ffïoedd dysgu'r Deyrnas Unedig ac yn gyfrifol am y costau llety a byw ar gyfer y semester yn y sefydliad partner.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor*, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad gwaith, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy'n cynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith amrywiol. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu cefnogi drwy gydol eu taith cyflwyno cais gyda chyngor, arweiniad ac adnoddau ychwanegol. Os na allwch sicrhau lleoliad, byddwch yn trosglwyddo i'r rhaglen radd safonol.

*mae lleoliadau dramor yn dibynnu ar gyfyngiadau FISA fesul gwlad.

Cyfleoedd Cyflogaeth Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth

Mae graddedigion Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth yn adnabyddus am eu gallu i addasu, eu creadigrwydd a'u safbwynt byd-eang. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r gallu i gysylltu syniadau ar draws disgyblaethau a'u cyfleu'n effeithiol. Byddwch yn gadael Abertawe â sgiliau mewn:

  • Dadansoddiad beirniadol a datrys problemau mewn modd creadigol
  • Gwaith tîm ac arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu uwch ar lafar ac yn ysgrifenedig

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau gan gynnwys:

  • Addysg a'r byd academaidd
  • Marchnata a chyfathrebu
  • Llywodraeth a pholisi cyhoeddus
  • Ymchwil a melinau trafod
  • Rheoli digwyddiadau a diwylliannol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth, BA (Anrh)

Astudiaethau Americanaidd a Gwleidyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)