Hanes yr Henfyd a Hanes, BA (Anrh)

Mae clirio ar agor!

students speaking together

Mae'r cwrs hwn ar gael trwy Glirio

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BA mewn Hanes yr Henfyd a Hanes yn eich galluogi i astudio cyfnod eang o hanes hynafol, canoloesol a modern. Byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau, o ddinas-wladwriaethau Groegaidd ac ymerodron Rhufeinig i deyrnasiaethau canoloesol, chwyldroadau modern, a'r syniadau sydd wedi dylanwadu ar gymdeithasau ar draws canrifoedd. P'un a ydych chi'n cael eich denu at fythau a henebion hynafol neu at themâu megis hawliau dynol a chlefyd, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i archwilio holl gymhlethdod hanes. 
 
Mae ein gradd yn sbarduno dadlau cyffrous ynghylch sut rydym ni fel haneswyr yn trefnu astudiaethau o'r gorffennol. Yn hytrach na thrin cyfnodau hanesyddol fel blociau ynysig, mae ein cwrs yn eich annog i feddwl yn feirniadol am y ffiniau cronolegol rydym yn eu gosod ar y gorffennol. Mae themâu allweddol megis pŵer, rhywedd, cred ac ymwrthedd yn torri ar draws rhaniadau traddodiadol, gan eich helpu i ddeall y cyfyngiadau o dorri'r gorffennol yn ddarnau o amser â labeli sefydlog. 
 
Gydag ystod eang o fodiwlau sydd ar agor i chi ar draws holl rychwant hanes (Hynafol, Canoloesol, Modern Cynnar a Modern), bydd gennych chi'r hyblygrwydd i deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau. Efallai y byddwch chi'n canolbwyntio ar hanes yr henfyd a'r canoloesoedd, gan archwilio'r cysylltiadau rhwng yr henfyd a'r byd cyfoes, neu archwilio sut mae syniadau a sefydliadau wedi esblygu dros gyfnodau gwahanol. Sut oedd pŵer yn gweithio mewn cymdeithasau gwahanol? Sut brofiad gafodd cymdeithasau lleiafrifol ar draws hanes? Sut mae dehongliadau o rywioldeb a hunaniaeth rhywedd wedi datblygu dros amser? Byddwn yn eich helpu chi i ddatblygu'r sgiliau i gymharu gwahanol gyfnodau o hanes a gwerthfawrogi'r hyn sydd wedi newid a phryd, a'r hyn sydd wedi aros yr un peth.

Pam Hanes yr Henfyd a Hanes yn Abertawe?

Rydym ni ar Gampws Parc Singleton, lleoliad trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe ar ymyl Penrhyn Gŵyr.

 Mae Hanes yn Abertawe yn:

  • Y 5ed safle yn y DU am Agwedd Gadarnhaol Gyffredinol (Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025) - a aseswyd o dan 'Y Clasuron'*
  • Ymysg y 25 adran orau yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • Mae 94% o raddedigion yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio, 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

*Yn seiliedig ar y sgôr agwedd gadarnhaol gyffredinol ar gyfer cwestiynau 1 i 26 yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o’i gymharu â’r prifysgolion yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Hanes yr Henfyd a Hanes

Byddwch ymhlith y cyntaf i ymwneud â safbwyntiau newydd a chlywed am syniadau arloesol am y gorffennol gan fod ein hacademyddion ar flaen y gad ym myd ymchwil hanesyddol. Mae dysgu ym Mhrifysgol Abertawe yn ddeinamig ac yn rhyngweithiol, p'un a ydych chi'n trafod tystiolaeth â phartner, yn cydweithio mewn grwpiau bach, neu'n datblygu eich dehongliadau'n annibynnol, byddwch yn cael profiad o ystod o agweddau sy'n addas i ddulliau dysgu gwahanol. Bydd gennych ddigon o gyfleoedd i fireinio sgiliau hanfodol, o ddadansoddi ffynonellau gwreiddiol ac archwilio archifau i gwestiynu safbwyntiau ysgolheigaidd sefydledig. 
 
Wrth i chi archwilio'r bydoedd hynafol, canoloesol a modern, byddwch yn ennill sgiliau sy'n ymestyn y tu hwnt i astudiaethau hanes. Byddwch yn dysgu sut i gynnal ymchwil annibynnol , gwerthuso tystiolaeth, creu dadleuon darbwyllol, a chyfleu eich syniadau yn glir ac yn hyderus. Ar hyd y ffordd, byddwch chi'n cryfhau eich gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm, sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn unrhyw yrfa. 
 
Drwy gydol eich gradd, bydd gennych fentor academaidd personol a all roi cymorth i chi gyda'ch astudiaethau. Rydym yn gymuned glos ac yn mwynhau archwilio'r byd hynafol y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae ein Cymdeithas yr Hen Fyd, dan arweiniad myfyrwyr, yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol rheolaidd, gan gynnwys teithiau i amgueddfeydd, sy'n ffordd wych i chi gwrdd ag unigolion o'r un meddylfryd.
 
Mae gennym gysylltiadau agos â'r sector treftadaeth, a gallwch wirfoddoli mewn nifer o amgueddfeydd lleol, gan gynnwys ein Canolfan Eifftaidd, sy'n gartref i dros 5,000 o arteffactau gwirioneddol o'r Aifft ar Gampws Singleton.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Mae gennym ni leoedd ar draws ystod eang o bynciau ar gyfer mynediad ym Medi 2026 - cysylltwch â'n Llinell Gymorth Clirio i drafod eich opsiynau.

0808 175 3071

Rydym hefyd yn croesawu ymholiadau gan ymgeiswyr sy’n ymchwilio i ddechrau cwrs yn 2027 - gweler ein Tudalen Gofynion Mynediad i gael gwybod am ystodau cynnig nodweddiadol, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01792 295111.

A ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n aros am ganlyniadau arholiad neu sgôr prawf Iaith Saesneg? Os felly, byddem yn eich annog i gyflwyno cais drwy ein system ymgeisio uniongyrchol gan efallai na fyddwch yn gymwys am gynnig amodol.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Fel myfyriwr Hanes yr Henfyd a Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch fel arfer yn datblygu sgiliau cyfathrebu, cyflwyno ac ysgrifennu rhagorol sy'n gysylltiedig ag ymchwil, dadansoddi a datrys problemau. Byddwch yn dysgu i ddatblygu eich syniadau mewn amrywiaeth eang o fformatau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch bywyd ar ôl y brifysgol. Rydym yn disgwyl i'n graddedigion fod yn feirniadol ystwyth, yn feddylwyr dadansoddol, yn fedrus mewn ymchwil, ac yn meddu ar sgiliau datrys problemau cryf, gan gynnwys y gallu i wneud penderfyniadau gwybodus. 
 
Mae ein graddedigion yn mynd i yrfaoedd mewn amrywiaeth eang o sectorau, gan gynnwys:

  • Treftadaeth a Thwristiaeth
  • Dysgu ac Addysg
  • Y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Marchnata
  • Busnes a Rheoli
  • Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil

Hanes yr Henfyd a Hanes, BA (Anrh)

Hanes yr Henfyd a Hanes gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Hanes yr Henfyd a Hanes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)