Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
a student looking down a camera

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein rhaglen BA yn Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe yn radd ryngddisgyblaethol sy'n integreiddio cryfderau beirniadol, damcaniaethol ac ymarferol dwy ddisgyblaeth gyflenwol.

Mae'r radd hon wedi'i chynllunio i'ch arfogi â'r sgiliau dadansoddol, creadigol a phroffesiynol sy'n angenrheidiol i ymgysylltu â diwydiannau diwylliannol a chyfathrebu'r 21ain ganrif, a chyfrannu atynt.

Bydd y rhaglen yn eich helpu i archwilio arwyddocâd hanesyddol a chyfoes llenyddiaeth a'r cyfryngau wrth lunio hunaniaethau unigol a chyfunol.

Drwy astudio Llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn ymgysylltu â thestunau o ystod eang o gyfnodau a chyd-destunau byd-eang, gan ddatblygu dealltwriaeth gref o ffurf lenyddol, hanes diwylliannol a damcaniaeth feirniadol.

Ochr yn ochr â hynny, bydd Y Cyfryngau yn eich cyflwyno i ddeinameg cyfathrebu digidol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chynhyrchu cyfryngau, wedi'u hategu gan sylfaen ddamcaniaethol gref mewn cyfrynguno a llythrennedd cyfryngau, gyda llawer o gyfleoedd i gymhwyso'r ddamcaniaeth hon yn ymarferol. Gwneir hyn drwy asesiadau sy'n adlewyrchu cymwyseddau proffesiynol, cyfleoedd profiad gwaith a lleoliadau.

Mae'r rhaglen yn meithrin eich chwilfrydedd deallusol, meddwl beirniadol a mynegiant creadigol. Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn dadansoddi testunau llenyddol a thestunau cyfryngau yn eu cyd-destunau diwylliannol a gwleidyddol, tra hefyd yn cynhyrchu cynnwys gwreiddiol ar draws amrywiaeth o lwyfannau. Byddwch yn elwa o addysgu dan arweiniad ymchwil, ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a sefydliadau diwylliannol.

Pam Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar gampws prydferth Parc Singleton, mewn parcdir yn edrych dros Fae Abertawe ac ymyl Penrhyn Gŵyr, gyda dwy adran uchel eu cyflawniad.

Mae Adran Y Cyfryngau yn Abertawe:

  • Yn 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*

Mae Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • Yn yr 11eg safle yn y DU ar gyfer Effaith Ymchwil (REF 2021)
  • Ymysg y 15 adran orau yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2026)
  • Ymhlith y 101-150 o brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 2026)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Eich Profiad Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg

Mae'r radd hon wedi'i chynllunio ar eich cyfer chi os ydych chi'n angerddol am adrodd straeon, diwylliant a chyfathrebu, ac eisiau deall sut mae geiriau, delweddau a syniadau yn llunio'r byd o'n cwmpas.

O destunau cyn-fodern i gyfryngau digidol, byddwch yn archwilio sut mae llenyddiaeth a thechnolegau yn adlewyrchu ac yn dylanwadu ar gymdeithas. Byddwch yn astudio llenyddiaeth o ystod eang o gyfnodau hanesyddol a chyd-destunau byd-eang, tra hefyd yn datblygu sgiliau mewn cynhyrchu cyfryngau, brandio, cysylltiadau cyhoeddus ac adrodd straeon digidol. P'un a ydych chi'n dadansoddi nofel, yn creu podlediad neu'n cyflwyno ymgyrch, byddwch chi'n cael eich annog i feddwl yn feirniadol, cyfathrebu'n effeithiol, a chreu gyda phwrpas.

Byddwch yn ymgysylltu â heriau byd-eang brys fel newid hinsawdd, cyfiawnder cymdeithasol a chynrychiolaeth ddiwylliannol, wrth ddysgu sut y gall llenyddiaeth a'r cyfryngau ymateb i'r materion hyn, a sut y gall eich gwaith eich hun wneud gwahaniaeth.

Mae'r rhaglen yn cyfuno ymarfer beirniadol a chreadigol, gan eich helpu i:

  • Gynhyrchu eitemau cyfryngau (e.e. podlediadau, traethodau fideo, ymgyrchoedd) sy'n cael eu llywio gan theori lenyddol a diwylliannol
  • Myfyrio ar eich prosesau creadigol eich hun mewn perthynas â chyd-destunau hanesyddol a damcaniaethol
  • Cymryd rhan mewn asesiadau'n seiliedig ar bortffolio sy'n cyfuno ymchwil, cynhyrchu a myfyrio
  • Meddwl yn feirniadol am sut mae gwybodaeth yn cael ei chynhyrchu a'i chyfleu

Wrth i chi symud ymlaen drwy'r radd, byddwch yn ymdrin â phynciau mwy cymhleth yn fanylach, gan symud o sgiliau sylfaenol i gynhyrchu gwaith annibynnol uwch:

  • Ar Lefel 4, mae modiwlau'n cyflwyno cysyniadau craidd yn y ddwy ddisgyblaeth ac yn eich annog i archwilio cysylltiadau (e.e. naratif, genre, cynrychiolaeth)
  • Ar Lefel 5, byddwch yn dechrau arbenigo, a chymhwyso damcaniaeth yn fanylach, gyda chyfleoedd i archwilio trawsddisgyblaeth (e.e. addasu, hunaniaeth, moeseg y cyfryngau)
  • Ar Lefel 6, mae modiwlau copa sylweddol yn eich galluogi i dynnu ar eich dysgu o bob rhan o'r rhaglen, i gynhyrchu prosiect hunangyfeiriedig.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant.

Cyfleoedd Cyflogaeth Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg

P'un a ydych chi am gael gyrfa mewn cyhoeddi, y cyfryngau, addysg, cyfathrebu, y celfyddydau neu yn y diwydiannau creadigol ehangach, bydd y radd hon yn eich arfogi â'r sgiliau, yr hyder a'r craffter i lwyddo.

Gyda chyflogadwyedd wedi'i ymgorffori ar draws y cwricwlwm, byddwch yn datblygu proffil proffesiynol cryf, ac yn gadael gyda phortffolio eang o waith, a phrofiad gydag offer safonol y diwydiant.

Bydd cyfle gennych i gymryd rhan mewn lleoliadau anffurfiol, a fydd yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau sy’n benodol i'r sector.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac yn cael eu cyflogi ledled y byd mewn gyrfaoedd mewn meysydd fel:

  • Newyddiaduraeth
  • Y Cyfryngau
  • Busnes
  • Cysylltiadau Cyhoeddus
  • Marchnata Digidol a'r We
  • Teledu a radio
  • Cyhoeddi
  • Cyfathrebu ar sail gyflogedig neu lawrydd

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh)

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)