Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh)

Astudiwch y Gymraeg, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

students working together around a table

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r BA Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn cynnig cyfle unigryw i astudio'r Gymraeg ochr yn ochr â damcaniaeth ac ymarfer y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Mae'r rhaglen ryngddisgyblaethol hon yn ymateb i dirwedd gyfathrebu ddwyieithog sy'n datblygu'n gyflym, gan ddathlu cyfoeth yr iaith Gymraeg a'i diwylliant mewn cyd-destun byd-eang.

Byddwch yn archwilio egwyddorion ac arferion cysylltiadau cyhoeddus, y cyfryngau a ffilm, gan ennill craffter beirniadol a phrofiad ymarferol. Mae'r cwrs yn cyfuno damcaniaeth â dysgu ymarferol, gan roi cyfleoedd i chi greu cynnwys a datblygu syniadau bob blwyddyn. Byddwch chi'n defnyddio offer sy'n dylanwadu ar gysylltiadau cyhoeddus modern - marchnata dylanwadwyr, creu cynnwys, dadansoddeg cyfryngau cymdeithasol, arfer moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol - gan feithrin sgiliau i reoli enw da ar-lein ac arwain ymgyrchoedd digidol.

Mae'r gydran Gymraeg yn cynnig ymagwedd ffres ar iaith, llenyddiaeth a chymdeithas, ac mae'r gydran hon wedi'i rhannu’n dair thema: Creadigrwydd, Cyflogadwyedd a'r Gymraeg yn y Gymdeithas. Byddwch hefyd yn ystyried y Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol, a fydd yn eich annog i fyfyrio ar amlddiwylliannaeth, amrywiaeth ieithyddol a rôl y Gymraeg mewn byd sy'n newid.

Mae modiwlau sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd a phrosiectau ar gyfer y byd go iawn yn eich paratoi chi ar gyfer amgylcheddau gwaith dwyieithog a gyrfaoedd mewn diwydiannau creadigol, cysylltiadau cyhoeddus, addysg, cyhoeddi, darlledu a gwasanaethau cyhoeddus. Mae dysgu mewn grwpiau bach a chymorth personol yn creu ymdeimlad cryf o gymuned.

Byddwch yn graddio fel ymarferwr adfyfyriol hyblyg - yn rhugl yn y Gymraeg, yn llythrennog yn y cyfryngau ac yn barod i greu cynnwys cymhellol ar draws platfformau digidol.

Beth am ehangu eich profiad â Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant? Gallwch dreulio amser yn astudio dramor neu ennill profiad gwaith â thâl (cyflog cyfartalog o dros £20,000), gan roi hwb i'ch sgiliau a'ch cyflogadwyedd.

Pam Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws Parc Singleton godidog, â golygfeydd dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Byddwch yn elwa o sgiliau a phrofiad awduron a beirdd blaenllaw yn ein tîm academaidd.

Mae ein rhaglenni’r Cyfryngau a Chyfathrebu yn perfformio'n uchel yn gyson mewn arolygon er enghraifft:

  • 2il yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • 5ed yn y DU am Lais Myfyrwyr (NSS 2025)*
  • 9fed yn y DU am Ragolygon Gyrfa (Guardian University Guide 2026)

*yn seiliedig ar y sgôr gyfartalog ar gyfer agwedd gadarnhaol fesul pob thema yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2025 o'n cymharu â phrifysgolion eraill yn y Times Good University Guide.

Mae Astudiaethau Diwylliannol yn Abertawe:
• Yn y 4ydd safle yn y DU am brofiad myfyrwyr (The Times and Sunday Times Good University Guide 2026)

Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i'ch paratoi am fywyd ar ôl y brifysgol. Gallwn wneud hyn drwy ddefnyddio ein cysylltiadau â diwydiant a'n pwyslais ar y sgiliau rhyngbersonol penodol a nodwyd gan ein panel diwydiant fel rhai sy'n allweddol yn eu prosesau recriwtio

Eich Profiad Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Gallwch deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch nodau gyrfa. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfle i dreulio blwyddyn yn astudio dramor neu flwyddyn mewn diwydiant. Mae blwyddyn dramor yn rhoi cyfle i chi wella eich ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol, gan ddatblygu eich sgiliau ym maes newyddiaduraeth ryngwladol a chreu cynnwys.

Gallwch dreulio'r Flwyddyn mewn Diwydiant yn y DU neu dramor, gan roi profiad gwerthfawr i chi o'r gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau cyflogedig, gyda chyflog cyfartalog o fwy na £20,000. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd amrywiol. Os ydych yn dewis treulio Blwyddyn mewn Diwydiant, byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol y broses cyflwyno cais â chyngor, arweiniad ac adnoddau. Os na allwch sicrhau lleoliad erbyn diwedd yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn gallu trosglwyddo i'r rhaglen radd 3 blynedd gyfatebol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae cysylltiadau agos yr Adran ag amrywiaeth o sefydliadau'r cyfryngau a chyfathrebu yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd profiad gwaith ac interniaethau ar bob lefel astudio. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd gan sefydliadau lleol sy'n cynnig lleoliadau gwaith â thâl a rhai gwirfoddol, i ddiwallu angen cyflogwyr am fyfyrwyr medrus i lenwi rolau cyfathrebu tymor byr.

Ar ben hyn, yn y drydedd flwyddyn, gallwch gofrestru ar ein modiwl interniaeth sy’n cynnig credydau. Byddwch yn ymgymryd â 50 awr o leoliad gwaith mewn amrywiaeth o rolau cyfathrebu, gan gynnwys mewn gweithleoedd cyfrwng Cymraeg lle bo’n briodol.

Mae’r ymagwedd ragweithiol hon at gyflogadwyedd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn gallu datblygu CV sy’n creu argraff dda. Yn ogystal, gall interniaethau gynnig cyfle i chi roi’r ddamcaniaeth a astudiwyd mewn darlithoedd ar waith yn y byd go iawn. Bydd cyfleoedd gwerthfawr hefyd i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol, mentoriaid a darpar gydweithwyr y dyfodol, a meithrin cysylltiadau sy’n gallu arwain at gynigion neu argymhellion am swyddi amser llawn i’n graddedigion.

Mae ein graddedigion yn wirioneddol ryngwladol ac wedi cael eu cyflogi ledled y byd mewn gyrfaoedd mewn meysydd fel:

  • Y Cyfryngau
  • Cyfathrebu
  • Busnes
  • Addysg
  • Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata
  • Marchnata Digidol
  • Teledu a radio
  • Cyhoeddi
  • Gwleidyddiaeth
  • Cynllunio ieithyddol
  • Cyfieithu 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh)

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)